Cymrawd Ymchwil a Gwerthuso (Iechyd y Cyhoedd) - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae cyfle wedi codi ar gyfer Cymrawd Ymchwil a Gwerthuso i gefnogi gwerthusiad y rhaglen Maniffesto Iechyd Meddwl – Gweithredu dros ein Dyfodol, dan arweiniad yr elusen Single Parents Wellbeing, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Abertawe a’r Sefydliad Iechyd Meddwl.

Mae’r rhaglen yn gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru i gyd-ddylunio llwybrau cadarnhaol at ddyfodol iach yn feddyliol, ac fe’i hariennir gan grant Mind Our Future y Loteri Genedlaethol.

Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddatblygu a llunio gwerthusiad cadarn ac effeithiol er mwyn gwella dealltwriaeth o effaith ac effeithiolrwydd y rhaglen(ni), ac yn ceisio datblygu prosiectau ymchwil a gwerthuso eraill/ceisiadau cyllid ymchwil mewn partneriaeth â chydweithwyr academaidd ac allanol, gyda canolbwyntio ar rymuso, iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwerthfawrogi dull cydgynhyrchu rhaglen Lles Rhieni Sengl a bydd ganddo ddiddordeb ym maes iechyd meddwl a lles.

Contract type: Cyfnod Penodol: 16 mis (Tymor penodol tan 30-06-2026 oherwydd cyllid)
Hours: Rhan-amser 30 awr yr wythnos
Salary: £46,840 - £53,602 y flwyddyn pro rata
Lleoliad: Capital Quarter 2, Caerdydd
Job reference:
028-AC411-1124
Closing date: