Ydych chi’n weithiwr clinigol proffesiynol cofrestredig sy’n ymgymryd â gweithgareddau ymchwil fel rhan o’ch swydd?
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal arolwg i fapio academyddion clinigol sy’n gweithio yng Nghymru gyda’r nod o weithio gyda nhw i ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar gyfer sefydliadau sy’n lletya a chlinigwyr sydd eisiau datblygu gyrfa mewn ymchwil.
Mae’r prosiect hwn wedi’i nodi drwy Fframwaith Ymchwil a Datblygu’r GIG, sy’n ceisio gwreiddio ymchwil yn GIG Cymru. Mae cefnogaeth i academyddion clinigol yn allweddol i’r uchelgais hwn.
Mae angen eich mewnbwn arnom i fapio’r mathau o academyddion clinigol yma yng Nghymru, eu niferoedd a’u lleoliadau. Bydd eich adborth yn helpu i ddatblygu canllawiau arfer da ar gyfer GIG Cymru a sefydliadau addysg uwch sy’n lletya ac yn cefnogi academyddion clinigol.
Pam cymryd rhan?
Dylanwadu ar ganllawiau cenedlaethol: bydd eich dealltwriaeth yn helpu i lunio canllawiau i gefnogi gwneud gyrfaoedd academaidd clinigol yn hygyrch ac yn gynaliadwy yng Nghymru.
Cefnogi’ch cyfoedion: drwy nodi anghenion academyddion clinigol a’r trefniadau gweithio gorau posibl ar eu cyfer.
Bod yn rhan o fenter strategol: i gefnogi a buddsoddi mewn gyrfaoedd academaidd clinigol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Pob gweithiwr proffesiynol sydd wedi’i gofrestru’n glinigol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymarfer ar hyn o bryd ond sy’n dal cofrestriadau clinigol.
Gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gweithgareddau clinigol ac ymchwil.
Sut i gymryd rhan?
Lledaenu’r gair
Rhannwch yr arolwg hwn gyda’ch cydweithwyr a’ch rhwydweithiau. Bydd yr arolwg yn fyw tan 31 Ionawr 2025.