Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol yng Nghymru

Cefndir
Gall Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol fod yn debyg i drawiadau epileptig, ond nid ydynt yn cael eu hachosi gan weithgaredd ymennydd epileptig. Maent yn digwydd mewn unigolion sy'n agored i niwed oherwydd prosesu annormal o sbardunau fel meddyliau, emosiynau neu symbyliad synhwyraidd.  Maent yn aml yn cael eu cam-diagnosio a'u trin fel bod ag epilepsi.

Mae Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol yn aml yn anrhagweladwy ac yn ofidus. Gallant achosi anafiadau a gadael pobl mewn cyflwr bregus.  Maent yn gysylltiedig â chyfraddau uchel o salwch meddyliol a chorfforol a diweithdra, a chyfradd marwolaeth gynamserol uchel, fel epilepsi.

Mae llawer o gleifion sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol yn ddefnyddwyr gwasanaeth brys yn aml, ond yng Nghymru maent yn wynebu bylchau mawr mewn gwasanaethau diagnostig a thriniaeth. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gall Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol effeithio ar gymaint ag 1 o bob 1,000 o bobl, gan ei gwneud yn fwy cyffredin na Sglerosis Ymledol. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod faint o bobl yng Nghymru sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol na pha ffactorau all gynyddu eu risg o ganlyniadau gwael.

Nodau
Gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol drwy greu dull o nodi'r cyflwr yn gywir; ac i gynhyrchu data i lywio cynllunio gwasanaethau gofal iechyd, gan alluogi targedu'r rhai sydd â'r risg uchaf o ganlyniadau gwaeth yn well.
Er mwyn cyflawni ein nodau, byddwn yn:

  • Datblygu dull o adnabod pobl sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol o fewn data gofal iechyd a gesglir yn rheolaidd
  • Defnyddio'r dull hwn i ddisgrifio nodweddion pobl yng Nghymru sydd â Thrawiadau Gweithredol / Datgysylltiol
  • Mesur eu defnydd o ofal iechyd
  • Mesur canlyniadau pwysig, gan gynnwys problemau gofal iechyd a marwolaethau
  • Adnabod y rhai sydd mewn mwy o berygl o ganlyniadau difrifol

Byddwn yn cynnwys unigolion sydd â phrofiad byw o Drawiadau Gweithredol / Datgysylltiol drwyddi draw.

Os gallwn ddatblygu dull ar gyfer adnabod yn ddibynadwy cleifion sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol, gallwn ei ddefnyddio i benderfynu: faint o bobl sy'n cael eu heffeithio gan Drawiadau Gweithredol / Datgysylltiol yng Nghymru; eu cefndiroedd (lefel amddifadedd); clefydau eraill y maent yn eu hwynebu; sut maen nhw'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd; a'u canlyniadau (gan gynnwys marwolaethau a phroblemau meddygol eraill). Ein nod hefyd yw darganfod nodweddion sy'n rhagweld risg o ganlyniadau gwael i bobl sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol, i gefnogi datblygiad a thargedu ymyriadau a thriniaethau.

Gwneud gwahaniaeth
Rydym wedi cyd-ddatblygu'r cynnig hwn gydag elusen FND Hope, sy'n cynrychioli pobl sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol, a'i drafod gydag aelodau'r cyhoedd o gefndiroedd amrywiol. Mae chwe phartner cyhoeddus sydd â phrofiad byw Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol wedi cyd-ddatblygu'r cynnig a byddant yn rhan o dîm y prosiect.

Ein nod yw defnyddio canlyniadau ein hastudiaeth i wella gofal a bywydau pobl sy'n byw gyda Thrawiadau Gweithredol / Datgysylltiol yng Nghymru a thu hwnt. Gellid defnyddio ein dull adnabod Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol mewn lleoliadau gofal iechyd i nodi unigolion sydd yn profi Trawiadau Gweithredol / Datgysylltiol. Bydd gwell data am y cleifion hyn yn helpu gyda chynllunio a datblygu gwasanaethau.  Bydd gwybodaeth am y rhai sydd mewn perygl o gael canlyniadau gwaeth yn helpu i dargedu adnoddau ac ymyriadau cyfyngedig i’r effaith fwyaf, gan wella ac achub bywydau gan hefyd leihau costau gofal iechyd diangen.

Gweithredol
Research lead
Dr William Pickrell
Swm
£243,980
Statws
Yn weithredol
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2024
Dyddiad cau
31 Mawrth 2026
Gwobr
Cynllun Ariannu Integredig - Cangen 1: Ymchwil Trosi a Chlinigol
Cyfeirnod y Prosiect
01-TC-00023