David Westlake

Gweminar y Gyfadran - Hanes a manteision Hap-dreialon dan Reolaeth (RCT) mewn gwaith cymdeithasol gyda David Westlake

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar hanes Hap-dreialon dan Reolaeth (RCT) ‘gwaith cymdeithasol’ gyda ffocws penodol ar waith cymdeithasol plant a theuluoedd yn y DU. Bydd David yn dadlau, er bod rhai RCTau cynnar arloesol yng nghanol yr 20fed ganrif, nad yw’r dull wedi cael ei ddefnyddio cymaint ag y gallai fod wedi tan yn ddiweddar. Mae pwyslais wedi bod ar ddulliau eraill, yn enwedig ymchwil ansoddol ar draul astudiaethau o effaith. Oherwydd nifer o ddatblygiadau diweddar, mae nifer ac ansawdd yr RCTau ym maes gofal cymdeithasol plant wedi cynyddu.

Bydd David yn trafod rhai astudiaethau allweddol, eu cryfderau a’u cyfyngiadau, ac yn ystyried y ffactorau strwythurol sydd wedi ei gwneud hi’n bosibl cynnal mwy o’r hap-dreialon hyn yn ddiweddar.

Mae David Westlake yn ymchwilio i waith cymdeithasol plant a theuluoedd a, hyd yn hyn, mae ei yrfa wedi cynnwys amrywiaeth eang o bynciau o fewn ac o amgylch y maes hwn. Yr hyn sy’n gyffredin yn ei waith diweddar yw ei fod i gyd wedi cynnwys gwerthuso ymyriadau cymhleth, mewn un ffordd neu’r llall. Mae’n tueddu i ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau oherwydd mae’r cyfuniad yn dweud mwy wrthym nag y byddai unrhyw ddull unigol pe bai’n cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun. Mae’n cael ei ddenu i’r maes ymchwil hwn am ei fod yn hoffi meddwl am y ffordd mae pethau’n digwydd yn y byd go iawn. Mae David yn hoffi adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wybod eisoes ac mae’r cylch ymchwil yn golygu bod y darlun rydych chi’n ei gael yn y diwedd yn newid ac yn dod yn gliriach dros amser. Mae hefyd yn gwerthfawrogi pa mor gyflym y mae’r astudiaethau hyn yn cael eu cyflawni a’u cysylltiadau agos â newid polisi.

Ar hyn o bryd, mae David yn un o arweinwyr y gwerthusiad Incwm Sylfaenol ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal, ac mae’n gyd-ymchwilydd hap-dreial dan reolaeth o’r heddlu mewn ysgolion. Mae astudiaethau diweddar yn cynnwys y Treial Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS), gwerthusiad o gynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru, a gwerthusiadau o eiriolaeth rhieni. Mae wedi cyd-olygu rhifyn arbennig o’r Journal of Children’s Services ar y pwnc addysg a gwasanaethau plant ffurfiol a chymunedol, ac mae’n gweithio ar lyfr am ddulliau arbrofol ym maes ymchwil Gofal Cymdeithasol Plant gyda chydweithwyr o Goleg y Brenin Llundain. Mae David yn aelod o Banel Gwerthuso a Chynghori Treialon Llywodraeth y DU, ac mae’n aelod o bwyllgor moeseg yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol.

Cyflwynwch eich cwestiwn i David ei ateb yn ystod y weminar

-

Online