
Ai chi fydd Cadeirydd newydd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd?
22 Chwefror
Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd yn chwilio am Gadeirydd newydd i arwain ei Fwrdd.
Mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd yn diogelu ac yn hyrwyddo buddiannau cleifion a’r cyhoedd ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd gan y Cadeirydd newydd rôl allweddol wrth gynnal a gwella safle’r DU fel arweinydd byd-eang ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r swyddogaeth ar gael oherwydd bod yr Athro Syr Terence Stephenson yn camu i lawr ar 31 Ionawr 2025.
I gyflawni’r swyddogaeth bydd gofyn bod yn arweinydd hyderus, profiadol i gynrychioli’r Awdurdod Ymchwil Iechyd ar lefel genedlaethol, gan sicrhau bod y sefydliad yn parhau i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd ac yn ysgogi ymchwil o ansawdd uchel.
Mae’r cyfrifoldebau’n cynnwys goruchwylio cyfeiriad strategol, cynnal cysylltiadau cryf ar draws y sector iechyd, ac arwain y Bwrdd yn ei swyddogaethau llywodraethu a rheoleiddio.
Mae’r rôl yn ymrwymiad dau ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o hyd at bedair blynedd.
Bydd ceisiadau’n cau am hanner dydd ar 25 Chwefror 2025 ac mae mwy o fanylion ar gael ar wefan gov.uk.