Lloyd running.

Brwydro Diabetes Math 1 gydag ymchwil

1 Chwefror

Mae Lloyd Murfin, 29 oed, fferyllydd o Gaerdydd, yn cymryd rhan yn astudiaeth Ver-A-T1D, astudiaeth glinigol sy'n ystyried a all y feddyginiaeth pwysedd gwaed bresennol atal symptomau diabetes math 1 rhag cychwyn.

“Cefais ddiagnosis o ddiabetes math 1 yn 2022, ond nid oedd gennyf unrhyw un o'r symptomau arferol: Doeddwn i ddim wedi colli pwysau, doeddwn i ddim yn sychedig ac nid oeddwn yn pasio llawer o ddŵr ar yr adeg honno. Ond roedd gen i gur pen yn aml ac roeddwn i wedi blino'n lân. 

“Roedd gen i feddyg anhygoel wnaeth lawer o brofion ychwanegol a'r noson cyn yr oeddwn i fod i fynd i barti stag fy ffrind ges i alwad ffôn gan y doctor yn dweud bod gen i ddiabetes math 1.

“Roeddwn i wedi dychryn oherwydd ei fod yn gyflwr gydol oes ac rydw i'n dal i ddysgu byw gydag ef. Mae fel taro balŵn i fyny i’r awyr drwy'r dydd, bob dydd ac rydych chi'n gwneud hynny am byth fel ei fod bob amser yno.”

Pam wnaethoch chi ddewis cymryd rhan yn yr astudiaeth?

Diolch i'w gefndir ym maes cemeg feddyginiaethol a'i swydd yn y maes fferyllol, mae gan Lloyd farn wybodus o ymchwil.

“Rwy'n deall manteision treialon clinigol.”

Esboniodd Lloyd pam y penderfynodd gymryd rhan yn yr ymchwil.

“Roedd wir yn rhoi ymdeimlad o reolaeth i mi ac ymagwedd iach tuag at ddeall yr hyn oedd yn digwydd gyda fy niagnosis.

“Mae miliynau o bobl wedi bod yn rhan o dreialon clinigol yn y gorffennol ac fel cymdeithas, rydym wedi elwa o hynny gyda chyffuriau newydd a ffyrdd o fyw gyda chyflyrau hirdymor.”

"Rwy'n helpu trwy fod ar y treial, ac yn gyfnewid am hynny rwy'n cael cyswllt unigol anhygoel gydag arbenigwyr o bwys yn y maes fel ymgynghorwyr ac ymchwilwyr.”

Beth oedd eich profiad o gymryd rhan yn yr astudiaeth?

Mewn treial ar hap fel yr astudiaeth Ver-A-T1D, mae pobl yn cael eu neilltuo ar hap i wahanol grwpiau. Yna mae'n ofynnol i gyfranogwyr gymryd un bilsen bob dydd am flwyddyn, ond efallai na fyddant yn gwybod a ydynt yn cael y feddyginiaeth wirioneddol sy'n cael ei phrofi (Verapamil yn yr achos hwn) neu blasebo (pilsen ffug heb unrhyw gynhwysion gweithredol).

“Dydw i ddim yn gwybod beth dwi'n ei gymryd a dydy'r nyrsys ar y treial ddim yn gwybod chwaith.

“Efallai fy mod ar y bilsen plasebo neu'r feddyginiaeth wirioneddol sy'n cael ei phrofi.”

Ble fyddem ni heb ymchwil?

Gyda nifer cynyddol o ddiagnosau diabetes math 1 a 2 ar ôl Covid, mae'r angen am driniaethau hygyrch ac effeithiol yn dod yn bwysicach nag erioed.

"Rwy'n credu bod unrhyw ymchwil sy'n digwydd nawr yn cael cymaint mwy o effaith yn y dyfodol."

Mae cyfranogiad Lloyd yn astudiaeth Ver-A-T1D yn enghraifft wych o sut y gall unigolion sydd â phrofiadau personol ysgogi newid cadarnhaol mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. 

“Mae ymchwil arall sy'n digwydd ledled y byd yn gobeithio rhoi diagnosis cynnar i blant a rhoi rhybudd ymlaen llaw y bydd y plentyn hwn yn datblygu diabetes math 1 ar ryw adeg.

“Felly, y syniad yw pe gallech gyfuno'r astudiaethau, gallai plant ddechrau cymryd meddyginiaeth cyn iddynt gyrraedd y pwynt lle mae eu pancreas yn dechrau methu.

O ganlyniad, efallai na fydd byth angen iddynt chwistrellu inswlin, sy'n rhyfeddol.”

Cofrestrwch gyda Be Part of Research i gymryd rhan mewn amrywiaeth o astudiaethau ymchwil iechyd a gofal.