
Darganfod Eich Rôl: y cynllun gweithredu sy'n rhoi pobl Cymru wrth wraidd cynnwys y cyhoedd
28 Chwefror
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau â'i ymrwymiad i wella cyfleoedd i gynnwys y cyhoedd trwy gynllun gweithredu newydd pedair blynedd, Darganfod Eich Rôl (DYR) 2.0.
Nod DYR 2.0 yw hybu cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yng Nghymru trwy helpu aelodau o’r cyhoedd ac ymchwilwyr i oresgyn rhwystrau i gymryd rhan.
Dechreuodd y tîm cyfathrebu, ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru DYR 2.0 ym mis Tachwedd 2023 gan weithio gyda dros 180 o bobl o wahanol sefydliadau yn y broses.
Mae'n ategu DYR 1.0, y cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru, a gafodd ei ddatblygu gydag ymchwilwyr ac aelodau’r cyhoedd rhwng 2020 a 2024.
Dywedodd Peter Gee, Uwch-reolwr Cynnwys y Cyhoedd ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn Darganfod Eich Rôl 2.0.
"Mae gweithio gyda chydweithwyr, y cyhoedd, grwpiau cymunedol a phartneriaid cenedlaethol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y daith hon.
"Roedd yn wych cael cwrdd â phobl o bob cwr o'r wlad, a chael sgwrs gyda llawer o bobl gyfarwydd a meithrin cysylltiadau newydd â phobl sy'n newydd i'r gymuned ymchwil.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at y pedair blynedd nesaf i weld sut bydd cynnwys y cyhoedd yn datblygu."
"Mae cynnwys y cyhoedd yn hanfodol" - datblygu DYR 2.0
Mae DYR 2.0 yn cyd-fynd â'r ymrwymiad ar y cyd ledled y DU i wella cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, gyda'r Awdurdod Ymchwil Iechyd, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a sefydliadau eraill.
Gyda'n gilydd, mae ein sefydliadau'n darparu arweiniad, hyfforddiant a chymorth i helpu i godi safonau mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cyfleoedd rhagorol ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn rhan hanfodol o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ac yn gwella ansawdd ac effaith ymchwil.
Roedd pedwar cam i'r cynllun - darganfod, ymgysylltu, yr ymgynghoriad drafft cyntaf a'r drafft terfynol.
Cafodd y cam cyntaf, darganfod, ei gynnal o fis Tachwedd 2023 a Mawrth 2024 a gweithiodd i nodi'r rhwystrau parhaus i gynnwys y cyhoedd trwy fforymau, arolygon a chyfarfodydd gydag ymchwilwyr ac aelodau’r cyhoedd.
Ar ôl nodi 15 o rwystrau, gweithiodd y cyfranogwyr mewn grwpiau yn ystod cam dau i ddatblygu datrysiadau yn ystod gweithdai ymgysylltu a dylunio ar y cyd.
Cafodd y gweithdai hyn eu cynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, gan ymdrin â heriau fel ymgysylltu, gydag amser cyfyngedig, â grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
Dywedodd Carol Barrett, aelod o'r gymuned cynnwys y cyhoedd a oedd yn bresennol yn y gweithdy yn Abertawe: "Mae cynnwys y cyhoedd yn hanfodol. Pe byddai pobl yn deall y byddai'n gwella eu gofal iechyd, efallai y bydden nhw’n cymryd rhan. Gellir cynnwys pob oedran a chyfnod."
Cafodd trydydd cam y gwaith ymgynghori, ei gynnal rhwng mis Medi 2024 a mis Ionawr 2025, gan lunio'r cynllun gweithredu yn seiliedig ar adborth. Cafodd ei fireinio ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025.
Cafodd gweminar ei chynnal i gyflwyno themâu allweddol, strategaethau gweithio ar y cyd, a gwaith gorffenedig.
Bydd y drafft terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, a bydd y cynllun yn lansio ym mis Ebrill 2025.
Am fwy o straeon ymchwil wedi’u danfon i’ch mewnflwch, cofrestrwch i dderbyn y bwletin.