Swyddog Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymdrechu i fod yn sefydliad sy'n weithredol o ran ymchwil, lle mae ymchwilwyr yn cael eu cynorthwyo i gyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel ym maes gofal iechyd. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn datblygu ymagwedd fwy corfforaethol at Ymchwil, Datblygu ac Arloesedd (RD&I), gan ganolbwyntio ar ymchwil gydweithredol, gyda chymorth rhagweithiol i ymchwilwyr, seilwaith ymchwil gwell a phrosesau llywodraethu a rheoli mwy eglur.
Bydd y Swyddog RD&I yn cynorthwyo a chefnogi pob agwedd ar weithgarwch ymchwil a datblygu yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, a bydd yn helpu i weithredu strategaeth RD&I Gwasanaeth Gwaed Cymru ac ymsefydlu gweithgarwch RD&I yn y gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol a logistaidd lefel uchel i'r swyddogaeth RD&I.
120-AC005-0225