Attendees looking at posters.

Cofrestru a galwad am grynodebau nawr ar agor ar gyfer Diwrnod Cymorth a Chyflenwi 2025

11 Mawrth

Cofrestru

Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer Diwrnod Cymorth a Chyflenwi 2025, gyda'r thema eleni: "Ysgogi newid ar gyfer rhagoriaeth ymchwil."

Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddod ynghyd â chydweithwyr o bob rhan o Gymru i glywed am flaenoriaethau ymchwil cenedlaethol, rhannu arfer gorau a dathlu cyflawniadau wrth gyflenwi ymchwil. Efallai eich bod yn gweithio mewn rôl ymchwil neu efallai eich bod yn cymryd rhan mewn ymchwil yn ymarferol, efallai yr hoffech ddysgu mwy am gymorth a chyflenwi ymchwil; bydd cyfle i fyfyrio ar gynnydd, cyfnewid syniadau gyda chymheiriaid a chryfhau cydweithio ym maes ymchwil ledled Cymru.

Cofrestrwch nawr.

Cofrestru yn cau am 17:00 ar 20 Mehefin 2025.

Galwad am grynodebau

Fel rhan o'r digwyddiad hwn, rydym yn eich gwahodd i gyflwyno crynodebau ar gyfer posteri, cyflwyniadau ar ffurf TED, gweithdai a sgyrsiau. Os oes gennych enghraifft o arfer gorau, dull arloesol o rannu, neu brosiect ymchwil sydd ar y gweill neu wedi'i gwblhau, rydym yn eich annog i gyflwyno crynodeb.

Eleni, rydym yn chwilio'n arbennig am grynodebau sy'n archwilio:

Arloesi mewn dulliau cyflenwi ymchwil a modelau

Ffyrdd newydd o wella cyflenwi ymchwil mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys methodolegau arloesol, defnyddio technoleg neu ddulliau creadigol i oresgyn rhwystrau wrth gyflwyno ymchwil. 

Gwneud amser ar gyfer ymchwil

Amlygu ffyrdd llwyddiannus o ymgorffori ymchwil mewn lleoliadau clinigol neu ofal bob dydd. Gallai'r rhain gynnwys strategaethau ar gyfer cydbwyso ymchwil â gwaith clinigol, mentrau diwylliant gweithredol ymchwil neu astudiaethau achos sy'n dangos sut mae unigolion a thimau wedi creu amser a lle i ymchwil ffynnu yn eu sefydliadau.

Gwneud ymchwil fasnachol yn wahanol 

Archwilio ffyrdd newydd ac effeithiol o gyflwyno ymchwil fasnachol. Y nod yw rhannu’r hyn sy’n cael ei ddysgu a all helpu i wella effeithlonrwydd, cyrhaeddiad ac effaith ymchwil fasnachol yng Nghymru.

Sut i gyflwyno crynodeb

I gyflwyno crynodeb, rhaid i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad yn gyntaf. Ar ôl cofrestru:

  1. Bydd dolen i'r ffurflen gyflwyno crynodeb yn ymddangos ar y dudalen cadarnhau cofrestru.
  2. Byddwch hefyd yn derbyn e-bost cadarnhau yn cynnwys y ddolen gyflwyno.
  3. Cyflwynwch eich crynodeb cyn y dyddiad cau.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich crynodeb yw 17:00 ar 12 Mai 2025.

Cofrestru a chyflwyno eich crynodeb nawr.