Trudy Smith

Trudy Smith

Arweinydd Arbenigeddau ar gyfer Iechyd Atgenhedlu a Genedigaeth

Trudy yw'r Arweinydd Arbenigeddau ar gyfer Iechyd Atgenhedlu a Genedigaeth yng Nghymru. Mae ganddi brofiad clinigol ac ymchwil helaeth ym maes gofal mamolaeth, ar ôl gweithio fel bydwraig ar draws Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Bae Abertawe bellach) a Hywel Dda cyn symud i ymchwil yn 2014. 

O 2014 ymlaen, gweithiodd Trudy fel Bydwraig Ymchwil ym Mae Abertawe ac, yn 2021, hi oedd y Fydwraig Ymchwil ymroddedig gyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Chwaraeodd ran ganolog wrth adeiladu portffolio ymchwil mamolaeth o fewn adran sy'n newydd i ymchwilio, gan ymgysylltu â Phrif Ymchwilwyr newydd yn llwyddiannus ac ehangu cyfleoedd ymchwil mewn iechyd atgenhedlu.  Mae ei diddordeb ymchwil personol yn gorwedd mewn iechyd meddwl amenedigol.  Mae Trudy wedi astudio dulliau ymchwil ar lefel meistr ac wedi cael ei phenodi'n gymrawd ymchwil er anrhydedd ym mhrifysgol Abertawe tan fis Ionawr 2025, ac mae'n angerddol am gynyddu mynediad at astudiaethau o ansawdd uchel sy'n gwella canlyniadau i fenywod a theuluoedd. 

Yn fwy diweddar, mae Trudy wedi ymgymryd â rôl arwain fel Arweinydd Tîm Ymchwil yn Ysbyty'r Tywysog Philip, gan oruchwylio ymchwil ar draws sawl disgyblaeth.  Gyda chefndir cryf mewn cyflwyno ymchwil, arweinyddiaeth, a hyrwyddo ymgysylltiad mewn treialon clinigol, mae hi wedi ymrwymo i ymgorffori ymchwil mewn ymarfer bob dydd. 

Yn ei rôl fel Arweinydd Arbenigeddau, nod Trudy yw hyrwyddo ymchwil iechyd atgenhedlu a genedigaeth ledled Cymru, gan gefnogi cydweithio rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod astudiaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf yn cael eu cyflwyno.

Cysylltu â Trudy

Email

Ffôn: 07816 124944

Cyfryngau cymdeithasol

X

LinkedIn