Rich Stanton

Yr Athro Richard Stanton

Cyfarwyddwr Uned Firoleg Gymhwysol Cymru (sef WAVU) ac Uwch Arweinydd Ymchwil

Mae Richard yn Athro Firoleg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd.  Ef yw pennaeth ymchwil heintiau, a Chyfarwyddwr Uned Firoleg Gymhwysol Cymru, uned newydd sy'n cael ei hariannu gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru. Mae wedi gweithio yng Nghaerdydd ers cyrraedd yno gyntaf fel myfyriwr israddedig ym 1995, cyn cynnal ei ymchwil PhD ac ôl-ddoethurol, ac yna sefydlu ei dîm ymchwil ei hun yn 2010. 

Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar glefydau a achosir gan haint firws, yn enwedig firws o'r enw cytomegalovirus dynol (neu HCMV) sy'n achosi clefyd sylweddol os caiff ei ddal yn ystod beichiogrwydd, ac mewn pobl sy'n cael trawsblaniadau. Mae hefyd yn rhedeg y labordy cyfyngiad uchel lle mae ei dîm yn ymchwilio COVID19.  Mae'n anelu at ddeall sut mae'r firysau hyn yn heintio ac yn lledaenu ynom, a sut y gallwn ddefnyddio'r system imiwnedd i'w rheoli trwy frechu ac imiwnotherapi. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sut mae firysau yn llwyddo i osgoi cael eu lladd gan ein system imiwnedd, oherwydd bydd atal hyn yn ein galluogi i'w rheoli'n fwy effeithiol.  

Mae'n gydweithredol iawn, gan weithio gyda firolegwyr, imiwnolegwyr, arbenigwyr proteomeg, ffarmacolegwyr, datblygwyr cyffuriau, ymchwilwyr iechyd cyhoeddus, ac arbenigwyr treialon clinigol, er mwyn sicrhau bod ei ymchwil o fudd i gleifion.  Mae wedi cynghori Llywodraeth Cymru ar glefydau firws er mwyn datblygu polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n gweithredu fel ymgynghorydd i nifer o gwmnïau fferyllol gwahanol. Mae wedi bod yn sylwebydd cyfryngau rheolaidd i'r cyfryngau Cymreig, gan gynnwys BBC Wales, ac mae'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r cyhoedd drwy fentrau fel 'Pint of Science'. 

Sefydliad

Prifysgol Caerdydd

Cysylltwch â Richard

Ebost

Ffôn07969 148916 

Cyfryngau Cymdeithasol

X

LinkedIn