
Yr Athro Reyer Zwiggelaar
Uwch Arweinydd Ymchwil
Mae gan yr Athro Zwiggelaar bron i 30 mlynedd o brofiad ymchwil ar y rhyngwyneb rhwng cyfrifiadureg a data iechyd, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ddiagnosis â chymorth cyfrifiadur.
Mae'r Athro Zwiggelaar wedi cyhoeddi 300 a mwy o bapurau llawn. Mae hyn yn gymysgedd o gyfraniadau cyfnodolion a chynhadledd o ansawdd uchel. Mae'n Olygydd Cyswllt "Journal of Biomedical and Health Informatics" yr IEEE (sef yr "IEEE Transactions on Information Technology in BioMedicine" gynt) a "Pattern Recognition".
Mae'r Athro Zwiggelaar wedi gweld 25 o fyfyrwyr PhD yn cwblhau eu hastudiaethau, ac ar hyn o bryd mae'n goruchwylio pum myfyriwr PhD (gyda thri arall yn aros am eu harholiad llafar). Mae wedi bod yn arholwr allanol ar gyfer 30 o fyfyrwyr PhD.
Derbyniodd yr Athro Zwiggelaar gyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer y Grŵp Dadansoddi a Delweddu Delweddau Meddygol ISG (o WORD/WAG bryd hynny) ac ar gyfer yr Uned Dadansoddi a Delweddu Delweddau Meddygol Uwch BRU (o NISCHR bryd hynny), y mae'n ei weld fel sylfaen i rywfaint o'r cyllid UKRI dilynol a ddyfarnwyd iddo. Mae cyllid presennol UKRI yn cynnwys AIMLAC (https://cdt-aimlac.org/) ac AIBIO (https://aibio.ac.uk/).
Ar hyn o bryd mae'r Athro Zwiggelaar yn Ddirprwy Gadeirydd Bwrdd Cyllid Trosiadol a Chlinigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac yn aelod o'r bwrdd cyllido ar gyfer ystod o ffrydiau cyllido Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eraill. Yn ogystal, mae'n adolygu ac yn aelod o banel ar gyfer UKRI ac amrywiaeth o gyrff cyllido rhyngwladol.