
A ddylid rhagnodi gwrthfiotigau i gleifion yn ystod llawdriniaeth canser y croen i atal haint?
27 Mawrth
SUBTITLE: Nod astudiaeth newydd yw dangos a ddylid rhagnodi gwrthfiotigau i gleifion ar adeg tynnu canser y croen i leihau'r risg o haint i’r clwyf.
Nod ymchwilwyr yng Nghymru yw canfod a yw gwrthfiotigau drwy’r geg yn effeithiol wrth atal haint yn safle’r llawdrinaieth mewn oedolion sydd wedi cael canser y croen wlserol wedi ei dynnu drwy lawdriniaeth o dan anesthesia lleol.
Mae'r treial EXCISE yn dreial rheoledig ar hap a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), ac mae modd i 380 o oedolion sy'n cael canser y croen wlseraidd wedi’i dynnu drwy llawdriniaeth gymryd rhan mewn ysbytai y GIG yn y DU sy'n cymryd rhan. Bydd yr holl gleifion sy'n rhan o'r treial yn cael eu neilltuo yn gyfartal i dderbyn naill ai gwrthfiotigau neu blasebo.
Canser y croen yw'r math mwyaf cyffredin o ganser. Bob blwyddyn yn y DU, mae dros 200,000 o bobl yn cael canser y croen wedi’i dynnu drwy lawdriniaeth. Mae rhai pobl yn datblygu canserau croen sy'n torri trwy wyneb y croen gan achosi clwyf ar y croen (a elwir yn ganser y croen wlseredig) sydd chwe gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu haint yn y clwyf ar ôl llawdriniaeth. Mae meddygon yn aml yn rhagnodi gwrthfiotigau ar adeg y llawdriniaeth i atal haint yn y clwyf, ond nid ydym yn gwybod a yw gwrthfiotigau yn lleihau'r risg o gael haint.
Bydd oedolion yn y treial EXCISE yn cael dos untro o wrthfiotig neu ddim gwrthfiotig (plasebo) i weld faint ym mhob grŵp sy'n datblygu haint yn y clwyf. Bydd galwadau ffôn dilynol gyda chyfranogwyr yn rheolaidd ar ôl llawdriniaeth yn cael eu cynnal i ofyn am eu clwyf, arwyddion o haint ac unrhyw sgîl-effeithiau. Bydd cyfranogwyr yn cael eu gweld yn yr ysbyty os amheuir bod haint yn y clwyf a byddant yn cael triniaeth ychwanegol os oes angen. Gall cleifion hefyd ddewis cymryd rhan mewn cyfweliadau ynghylch pa mor hir y cymerodd i ddychwelyd i weithgaredd arferol a'r effaith ar fywyd bob dydd ar ôl llawdriniaeth. Ar ddiwedd y treial, pan fydd yn hysbys faint a ddatblygodd haint yn y clwyf, bydd y canlyniadau yn helpu ymchwilwyr i benderfynu a ddylid rhoi gwrthfiotigau i gleifion cyn llawdriniaeth croen ac a yw hyn yn lleihau'r risg o haint yn y clwyf.
Mae'r treial EXCISE yn cael ei gynnal o'r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cael ei arwain gan Dr Rachel Abbott a Dr Emma Thomas-Jones. Mae Dr Rachel Abbott yn ddermatolegydd ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy'n arbenigo mewn canser y croen a llawfeddygaeth y croen. Mae Dr Emma Thomas-Jones yn brif Gymrawd Ymchwil ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Heintiau, Llid ac Imiwnedd yn y Ganolfan Ymchwil Treialon, uned treialon clinigol sydd wedi'i chofrestru gan UKCRC.
"EXCISE yw'r treial cyntaf yn y DU sy'n ystyried a yw tabledi gwrthfiotig yn effeithiol wrth leihau'r risg o haint mewn clwyfau i bobl sy'n cael llawdriniaeth ar gyfer canser y croen. Mae ein tîm, ynghyd â'r gymuned ehangach o gleifion a chlinigwyr, wedi gweithio'n galed i ddatblygu'r treial hwn ac rydym nawr yn edrych ymlaen at ddarparu tystiolaeth gadarn i lywio gofal cleifion yn y dyfodol."
- Dr Rachel Abbott, Dermatolegydd Ymgynghorol.
"Rwy'n falch iawn o gyd-arwain y treial hwn gyda Dr Rachel Abbott, sy'n barhad o'n gwaith i sefydlu'r dystiolaeth ar gyfer defnyddio gwrthfiotigau yn briodol ar gyfer cleifion sy'n cael llawdriniaeth canser y croen. Gobeithio y bydd y treial yn arwain at safoni ymarfer o fewn y GIG ac y bydd o fudd i gleifion.”
- Dr Emma Thomas-Jones, Prif gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil Treialon Caerdydd
Ymhlith y partneriaid sy’n cydweithredu ar yr astudiaeth mae academyddion o Ganolfan Economeg Iechyd Abertawe, Prifysgol Efrog, Prifysgol Rhydychen, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Ysbytai Prifysgol Rhydychen, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Walsall, a GIG Tayside. Mae tîm yr astudiaeth hefyd yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr cynnwys cleifion a'r cyhoedd. Mae'r astudiaeth yn cael ei hariannu gan y NIHR a bydd yn rhedeg am dair blynedd, gan ddisgwyl canlyniadau yn 2028. Ariennir y Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.