a_man_and_two_women_with_an_award

Treial Ysbyty Singleton yn edrych i wella triniaeth ymhellach ar gyfer cleifion canser y brostad

10 Ebrill

Mae ymchwilwyr yn Ysbyty Singleton yn Abertawe yn paratoi i lansio astudiaeth ddilynol i dreial byd-eang a chwyldroi triniaeth i gleifion canser y brostad. 

Dechreuodd y treial gwreiddiol, Stampede, 20 mlynedd yn ôl a recriwtiodd 12,000 o ddynion ledled y byd erbyn iddo ddod i ben yn 2023.  Ei nod oedd darparu tystiolaeth o'r ffordd orau o drin dynion oedd â chanser datblygedig y brostad newydd ei ddiagnosio, trwy archwilio'r manteision posibl o ychwanegu ystod o wahanol driniaethau i therapi hormonau safonol.

Canfu bod rhai triniaethau yn gwella cyfraddau goroesi i ddynion y mae eu canser y brostad wedi lledaenu, neu a oedd mewn perygl uchel o ledaenu, gan newid safon gofal ledled y byd yn y pen draw.

Mae gan ddynion yng Nghymru risg un o bob wyth o gael canser y brostad, gan ei wneud y canser mwyaf cyffredin mewn dynion ledled y wlad. Fodd bynnag, diolch i dreialon fel hyn, mae cyfraddau goroesi yn gwella. 

Cafodd Tony Hesslegrave o Sardis, ger Llanusyllt, ddiagnosis o ganser y brostad yn 2013 ac mae ar feddyginiaeth gydol oes. Mae Mr Hesslegrave yn cael pigiad therapi hormonau gan ei feddyg teulu bob 12 wythnos, sef y gofal safonol.  Trwy Stampede, mae hefyd yn derbyn dau gyffur ychwanegol, Abiraterone a Prednisolone. 

Dywedodd Mr Hesslegrave, "Rwy'n falch fy mod wedi cymryd rhan yn y treial hwn.  Nid yn unig i mi fy hun ond i helpu i brofi bod Abiraterone yn gweithio, a gobeithio y bydd dynion eraill yn gallu ei ddefnyddio a'u helpu. 

"Rwy'n nabod pobl eraill yno sydd wedi cael canser y brostad, ac rydw i bob amser yn dweud - ewch am y driniaeth."

Roedd Sefydliad Canser Ysbyty Singleton yn gyfranogwr gweithgar yn Stampede, ac ymhlith y safleoedd recriwtio gorau yn y DU, gan recriwtio bron i 300 o gleifion.  Roedd yn rhan o sawl cangen o dreial Stampede, pob un yn canolbwyntio ar driniaeth wahanol, gan gynnwys cemotherapi, asiantau hormonaidd newydd a radiotherapi. 

Bydd Stampede 2 yn dechrau recriwtio yn ddiweddarach eleni.  Bydd yn asesu effeithiolrwydd ymyriadau newydd lluosog, gan gynnwys ffurf arloesol o radiotherapi o'r enw Radiotherapi Stereo Abladol (neu SABR). 

Dywedodd Dr Wael Mohamed, ymgynghorydd mewn oncoleg feddygol yn Ysbyty Singleton:  "Yn ystod Stampede fe wnaethon ni roi radiotherapi i'r brostad yn unig ar gyfer cleifion sydd â chlefyd metastatig. Nawr rydyn ni am roi radiotherapi i fannau eraill y tu allan i'r brostad, os oes nifer cyfyngedig. Mae er mwyn ceisio rhoi radiotherapi i sawl man ar yr un pryd, i reoli'r clefyd yn yr holl fannau hynny.

"Mae SABR yn cynnwys dosau uchel o ymbelydredd wedi'u targedu'n fwy manwl gywir.  Mae'n fwy manwl gywir i fannau cyfaint bach, gyda llai o effaith ar fannau eraill. Mae'r cyfan wedi'i grynhoi mewn un pwynt. 

"Nid yw wedi cael ei wneud yn y modd hwn o'r blaen, felly bydd y treial yn dangos a oes budd gwirioneddol." 

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn gyntaf drwy Rwydwaith Ymchwil Canser Cymru ac yn awr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi cefnogi twf ymchwil canser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, lle gall cymaint â 30 o dreialon fod yn cael eu cynnal ar unrhyw un adeg.  

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Rydym yn ddiolchgar i gleifion o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy'n cymryd rhan yn y treial STAMPEDE, a gwaith y tîm yn Ysbyty Singleton wrth fwrw ymlaen â cham nesaf y treial, sy'n ategu'r swm sylweddol o waith ymchwil sydd eisoes ar y gweill ym maes diagnosteg a thriniaethau canser y brostad."