
DATA SAIL yn Datgelu Cysylltiad Rhwng Brechlyn yr Eryr a Llai o Risg o Ddementia
17 Ebrill
Mae ymchwilwyr wedi darganfod tystiolaeth gymhellol ar gyfer yr effaith y mae brechlyn yr eryr (shingles) yn ei chael ar leihau’r risg o ddatblygu dementia, gan ddefnyddio data o gronfa ddata fyd-enwog SAIL, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Wedi’i chyhoeddi yn Nature, aeth yr ymchwil, a gynhaliwyd gan Markus Eyting, Min Xie, Felix Michalik a chydweithwyr, ati i olrhain dros 280,000 o oedolion yng Nghymru gan ddefnyddio cofnodion iechyd dienw yn SAIL. Datgelodd y canfyddiadau fod unigolion a gafodd Zostavax, brechlyn yr eryr nad yw’n cael ei ddefnyddio mwyach, tua 20% yn llai tebygol o gael diagnosis o ddementia.
Roedd modd cynnal yr ymchwil hon diolch i nodwedd unigryw o bolisi iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Pan gyflwynwyd brechlyn Zostavax yn 2013, roedd cymhwysedd yn seiliedig ar ddyddiad geni yn unig. Cynigiwyd y brechlyn i bobl a aned ar 2 Medi 1933 neu ar ôl hynny, ond ni chynigiwyd y brechlyn i bobl a aned cyn hynny, hyd yn oed diwrnod yn gynt – gan greu dau grŵp clir i’w cymharu.
Sylwodd yr ymchwilwyr ar wahaniaethau amlwg rhwng y grwpiau hyn. Nid yn unig roedd llai o achosion o ddementia ymhlith y grŵp a oedd wedi cael y brechlyn, canfuwyd bod yr effaith amddiffynnol yn fwy amlwg ymhlith menywod.
Gyda mwy na 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru ar hyn o bryd, ac amcanestyniadau yn amcangyfrif y bydd y nifer hwnnw yn fwy na dyblu erbyn 2055, gallai’r canfyddiadau hyn agor llwybrau addawol newydd ar gyfer gwaith atal.
Gan fyfyrio ar rôl cronfa ddata SAIL wrth sicrhau bod y math hwn o ymchwil yn gallu digwydd, dywedodd yr Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr SAIL:
Mae cronfa ddata SAIL wedi datblygu’n adnodd o’r radd flaenaf sy’n cael ei ganmol yn rhyngwladol ac sy’n rhan annatod o seilwaith gwybodeg cenedlaethol Cymru ac yn arweinydd arloesedd cydnabyddedig ledled y DU. Mae ei Hamgylchedd Ymchwil Dibynadwy hyblyg a chadarn yr ymddiriedir ynddo yn cefnogi ymchwil effaith uchel ar draws data iechyd, gweinyddol a chymdeithasol, ac mae’n parhau i gefnogi gwaith hollbwysig fel hwn.”
Mae’r astudiaeth nid yn unig yn tynnu sylw at y potensial sydd gan frechlynnau i atal cyflyrau niwrolegol cronig ond mae hefyd yn pwysleisio rôl hollbwysig data iechyd diogel a dibynadwy wrth sicrhau bod modd cynnal ymchwil o’r radd flaenaf.