
Helpwch ni i ddathlu Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol a Coch Dros Ymchwil 2025
17 Ebrill
Ymunwch â ni i ddathlu ymchwil a'r timau anhygoel sy'n gwneud gwahaniaeth ledled Cymru!
Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol – 20 Mai 2025
Rydym am dynnu sylw at y timau ymchwil ymroddedig ledled Cymru sy'n cynnal astudiaethau pwysig ac sy’n llunio dyfodol iechyd a gofal. Ydych chi'n gwybod am dîm ymchwil sy'n angerddol am eu gwaith? Enwebwch nhw nawr fel y gallwn arddangos eu cyfraniadau a dathlu eu heffaith!
Dyddiad cau ar gyfer enwebu: 5 Mai 2025
#CochDrosYmchwil – 20 Mehefin 2025
Gadewch i ni ddod at ein gilydd i gydnabod pŵer ymchwil! Rhannwch yr hyn mae ymchwil yn ei olygu i chi a'ch tîm, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, a pham mae'n hanfodol. Gwisgwch goch, tynnwch lun, a'i anfon atom gydag ychydig eiriau am eich tîm a'ch lleoliad What3Words.
Helpwch ni i hyrwyddo a dathlu'r bobl y tu ôl i'r ymchwil sy'n newid bywydau.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 17:00 ddydd Llun 26 Mai 2025