Collage o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn ymchwil, gwaith clinigol, gweithgareddau grŵp, ac yn dathlu Diwrnod Red4Research, gyda rhai yn dal baner Cymru a balŵns coch.

Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol 2025

Ymunwch â ni i ddathlu ymchwil a'r timau anhygoel sy'n gwneud gwahaniaeth ledled Cymru!

Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol – 20 Mai 2025 

Rydym am dynnu sylw at y timau ymchwil ymroddedig ledled Cymru sy'n cynnal astudiaethau pwysig ac sy’n llunio dyfodol iechyd a gofal. Ydych chi'n gwybod am dîm ymchwil sy'n angerddol am eu gwaith? Enwebwch nhw nawr fel y gallwn arddangos eu cyfraniadau a dathlu eu heffaith!

Enwebu tîm ymchwil

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: 5 Mai 2025 

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â'r tîm.

-

Everywhere