
Mae’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yn darganfod llwybrau newydd i dargedu canser y gwaed
22 Ebrill
Canser y gwaed yw’r pumed canser mwyaf cyffredin yn y DU, ond yn hanesyddol, mae ei amrywiadau niferus yn ei wneud yn adnabyddus am fod yn anodd ei drin. Mae dros 100 o wahanol fathau o Lewcemia Myeloid Acíwt (AML), pob un wedi’i achosi gan fwtaniad gwahanol.
Fel rhan o’i PhD, mae Owen Hughes yn ymchwilio i sut mae protein o’r enw NFIC (Ffactor Niwclear I/C) yn dylanwadu ar dwf celloedd lewcemia myeloid acíwt (AML). Mae NFIC yn brotein sy’n gweithredu fel ffactor trawsgrifio, sy’n golygu ei fod yn rheoli gweithgaredd genynnau eraill trwy rwymo i DNA. Dywedodd Owen:
"Roedden ni eisoes yn gwybod bod celloedd AML yn cynhyrchu mwy o NFIC na chelloedd arferol ond tan yn ddiweddar, nid oedd yn glir pam."
Creodd Owen gelloedd AML sy’n gwneud llai o NFIC a chymharodd eu hymddygiad â chelloedd AML arferol. Dangosodd ei ganlyniadau fod celloedd gyda llai o NFIC yn tyfu’n arafach, gan awgrymu bod y protein hwn yn chwarae rhan allweddol yn helpu’r canser i ledaenu.
Wrth i Owen ymgymryd â chamau olaf ei PhD, mae’n canolbwyntio ar ddilysu’r canlyniad hwn. Os bydd yn llwyddiannus, gallai hyn fod yn ffordd newydd o dargedu’r clefyd ac yn agor drysau i driniaethau gwell ar gyfer AML yn y dyfodol.
Dywedodd Owen:
Rwy’n gyffrous iawn i ddatblygu’r canfyddiadau hyn gan obeithio gwneud gwahaniaeth i sut yr ydyn ni’n trin y clefyd hwn."
Mae’r Athro Alex Tonks, o’r Is-adran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd, yn cefnogi ymchwil Owen i driniaeth "fanwl" ar gyfer AML, diolch i’r cyllid gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Dywedodd yr Athro Tonks:
"Rwy’n angerddol dros gefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a fydd yn bwrw ymlaen â’r ymchwil hon ac yn creu’r triniaethau hynny ar gyfer y cleifion hynny."
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid gan y Gyfadran ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, cofrestrwch i dderbyn bwletin wythnosol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â Chyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, anfonwch e-bost at dîm y Gyfadran.