a_man_sat_at_a_table

Mae dros 1,000 o gyfranogwyr yn ymuno ag astudiaeth, gyda'r nod o wella effeithlonrwydd sgrinio canser y coluddyn

25 Ebrill

Mae astudiaeth sy'n anelu at wella effeithlonrwydd sgrinio canser y coluddyn dros hanner ffordd tuag at ei nod o recriwtio 2,000 o gleifion yng Nghymru. 

Mae'r astudiaeth, COLOSPECT, yn edrych ar fanteision ychwanegu prawf gwaed syml i'r broses sgrinio bresennol.   Hyd yn hyn, mae mwy na 1,200 o gleifion wedi cael eu recriwtio i'r astudiaeth, sy'n cael ei noddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac a ariennir gan grant oddi wrth Ymchwil Canser Cymru.

Mae goroeswyr canser y coluddyn wedi croesawu'r astudiaeth a'r cleifion sy'n cymryd rhan ynddi, gydag un dyn - Jeff Horton, aelod o gymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - yn ychwanegu:  "Mae unrhyw brawf sy'n gwella canfod canser y coluddyn yn gynnar i'w groesawu.  Os caiff ei ddal yn gynnar, yna mae canser y coluddyn yn welladwy i raddau helaeth. 

"Mae astudiaethau fel hyn yn bwysig wrth helpu i ddod o hyd i ddiagnosteg a thriniaethau newydd ac mae cyfranogiad gan aelodau cyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol." 

Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda bron i 2400 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn.  Mae canfod yn gynnar yn allweddol, gyda 90% o gleifion yn goroesi os caiff ei ddarganfod a'i drin yn gynnar. Fodd bynnag, mae gwasanaethau sgrinio o dan bwysau sylweddol, gyda nifer y bobl sy'n aros am golonosgopi yng Nghymru wedi mwy na dyblu ers 2020. 

Mae pobl rhwng 50 a 75 oed yn cael cynnig pecynnau Profion Imiwnocemegol ar Ysgarthion gartref yn rheolaidd i helpu i ganfod canser y coluddyn cyfnod cynnar. Yna gwahoddir cleifion, sy'n dychwelyd Prawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion positif, am golonosgopi.

Mae COLOSPECT yn astudio cyflwyno prawf gwaed ychwanegol i'r llwybr sgrinio hwn.  Mae'r prawf gwaed Raman yn brawf gwaed sensitif iawn sy'n gallu adnabod olion bysedd moleciwlaidd sy'n unigryw i ganser y coluddyn. Gallai hyn helpu i wella effeithlonrwydd sgrinio, gan alluogi clinigwyr i flaenoriaethu cleifion sydd angen eu colonosgopi'n gyflym, gan hefyd leihau'r angen am golonosgopi diangen. 

Y gobaith yw hefyd y bydd cynnig prawf gwaed syml, ochr yn ochr â phrawf ysgarthion, yn annog mwy o bobl i ddod ymlaen ar gyfer sgrinio, yn enwedig ymhlith poblogaethau sy'n fwy tebygol o ddatblygu canser y coluddyn, ond sydd â chyfraddau isel o ddefnydd o raglenni sgrinio. 

Dywedodd yr Athro Dean Harris, llawfeddyg ymgynghorol y colon a'r rhefr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Gall cleifion sydd â phrawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion positif gael colonosgopi arferol o hyd, er enghraifft oherwydd gwaedu i'r coluddyn o achosion diniwed eraill. Gellid osgoi'r colonosgopi hyn trwy brawf gwaed Raman negyddol, gan ryddhau adnoddau ar gyfer colonosgopi mwy amserol i fwy o bobl, gan ganiatáu canfod canser yn gyflymach. 

"Disgwylir hefyd bod y prawf gwaed Raman yn fwy cywir na'r prawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion wrth ganfod polypau, y briwiau coluddyn rhagfalaen sy'n achosi canser. Gallai ei ddefnydd felly ganfod cleifion â'r polypau mwy peryglus, er mwyn caniatáu iddynt gael eu tynnu yn ystod colonosgopi, gan arwain at atal canser.

"Y gobaith yw y bydd astudiaeth COLOSPECT yn diffinio cywirdeb y prawf, gyda'r camau nesaf posibl yn astudiaethau pellach sy'n edrych ar ble mae'r prawf Raman wedi'i leoli orau yn ymarferol.

"Mae'n galonogol iawn ein bod wedi recriwtio dros hanner ein targed o 2000 o gleifion ac yn gobeithio parhau i recriwtio i COLOSPECT dros y 12 mis nesaf.  Trwy gymryd rhan yn yr astudiaeth mae cleifion o Gymru yn chwarae eu rhan wrth helpu i ddod o hyd i atebion a gwella triniaeth ar gyfer un o ganserau mwyaf cyffredin Cymru." 

Ar hyn o bryd dim ond 7% o sgrinio colonosgopi sy'n dod o hyd i ganser. Amcangyfrifir y gellid osgoi rhwng 20-30% o golonosgopïau trwy ddefnyddio prawf gwaed Raman ar ôl canlyniad Prawf Imiwnocemegol ar Ysgarthion positif, a fyddai'n arbed adnoddau sylweddol y flwyddyn i'r GIG (amcangyfrifir ei fod yn 1,000 yn llai o golonosgopïau'r flwyddyn, gydag arbediad rheolaidd o £1M), ac yn osgoi anghyfleustra ac amser i ffwrdd o'r gwaith i gyfranogwyr sgrinio. 

Ychwanegodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru:  "Fel elusen Ymchwil Canser Cymru, a chyllidwr hirdymor yr ymchwil hon, mae Ymchwil Canser Cymru yn falch iawn o weld prawf gwaed Raman ar gyfer canfod canser y coluddyn yn gynnar yn cyflawni ei addewid ar raddfa genedlaethol.  Hoffem ddiolch i'r holl bobl sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth hyd yn hyn." 

I gael rhagor o wybodaeth am brawf gwaed Raman, ewch i wefan Ymchwil Canser Cymru