
Astudiaeth ymchwil yn chwilio am bobl sydd wedi goroesi canser er gwaethaf pob disgwyl
30 Mehefin
Mae Gwasanaeth Canser Felindre wedi lansio Astudiaeth Rosalind yng Nghymru, sef menter ymchwil ryngwladol sy'n ceisio deall nodweddion unigryw pobl sy'n goroesi mathau ymledol o ganser er gwaethaf pob disgwyl.
Mae Astudiaeth Rosalind, o dan arweinyddiaeth cwmni biodechnoleg Cure51 o Ffrainc, yn ceisio darganfod beth yw’r ffactorau biolegol sy'n helpu cleifion canser i oroesi am gyfnod eithriadol, hirdymor, yn ogystal â datgelu gwybodaeth a allai arwain at greu triniaethau mwy effeithiol am ganser.
Tri math penodol o ganser
Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar unigolion eithriadol sydd wedi goroesi math pellach o ganser yr ysgyfaint o fath celloedd bach neu adenocarcinoma metastatig y pancreas am fwy na phum mlynedd ers cael diagnosis, neu ganser glioblastoma yr ymennydd am fwy na thair blynedd.
Bydd angen i gleifion cymwys roi caniatâd i ni ddefnyddio eu data a samplau o’u tiwmor sydd eisoes gennym. Bydd y samplau’n cael eu hanfon at Cure51 i’w dadansoddi.
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ac yn awyddus i helpu i greu triniaethau mwy effeithiol am ganser, cysylltwch â ni:
E-bostiwch Wasanaeth Canser Felindre ar Rosalind.study@wales.nhs.uk