a_woman_wearing_glasses_smiling

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf ar gyfer aelodau Pwyllgorau Moeseg Ymchwil (REC) yng Nghymru a Lloegr

4 Gorffennaf

Cais am Fwy o Wybodaeth (RFI) ac argymhellion ar gyfer y Ffurflen Adolygu Moeseg (ERF)

Pan fydd penderfyniad y Pwyllgor Moeseg Ymchwil (REC) yn cael ei rannu ag ymgeisydd, mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) yn gofyn iddynt rannu adborth mewn arolwg boddhad defnyddwyr.

Cafodd yr HRA adborth rheolaidd o’r arolwg hwn y gallai'r Ceisiadau am Fwy o Wybodaeth fod yn gliriach.

Mae hyn yn cynnwys ceisiadau am eglurder, cyfiawnhau'r pwyntiau a godwyd a cheisiadau am newidiadau i ddogfennau astudiaethau.

Pan fydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn adolygu cais neu ddiwygiad, mae'n bwysig sicrhau bod yr HRA yn gallu cyfathrebu canlyniadau’r adolygiad moeseg yn glir ac yn gywir i'r ymgeisydd. 

Pan fydd yr ymgeisydd yn deall y mater moesegol a'r rheswm dros newid, mae'n eu galluogi i ymateb yn gywir.

Ffurflen Adolygu Moeseg (ERF)

Am gryn amser erbyn hyn, mae'r Ffurflen Adolygu Moeseg (ERF) wedi bod ar gael i aelodau Pwyllgorau Moeseg Ymchwil ei defnyddio fel canllawiau ar gyfer adolygiadau.

Fodd bynnag, mae'r HRA wedi cael adborth nad yw pob Pwyllgor Moeseg Ymchwil ei defnyddio.

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o werth defnyddio’r ffurflen, a deall a allai hyn helpu i safoni ffocws yr adolygiad moeseg, cynhaliodd yr HRA cynllun peilot y llynedd, yn cynnwys sawl Pwyllgor Moeseg Ymchwil. Diolch i'r rhai ohonoch a gymerodd ran yn hyn.

Dangosodd y cynllun peilot y gall gwneud defnydd da o Ffurflenni Adolygu Moeseg helpu gyda pharatoi ar gyfer cyfarfodydd, safoni'r dull o nodi gwallau teipio, lleihau hyd cyfarfodydd a gwella ansawdd y Cais am Fwy o Wybodaeth. 

Argymhellion i gefnogi defnyddio dogfennau Cais am Fwy o Wybodaeth a Ffurflenni Adolygu Moeseg

Gan ddefnyddio'r adborth wedi’i rannu yn ystod y cynllun peilot, mae'r HRA wedi datblygu rhai argymhellion ynghylch sut i sicrhau bod Ceisiadau am Fwy o Wybodaeth yn cael eu cofnodi'n glir mewn cyfarfodydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil i gynorthwyo'r Pwyllgorau Moeseg Ymchwil i sicrhau bod y materion moesegol yn glir a bod unrhyw geisiadau am eglurder neu newid yn gynhwysfawr i wella ansawdd ailgyflwyniadau. 

Mae hyn hefyd yn cynnwys arfer gorau ar gyfer defnyddio'r Ffurflen Adolygu Moeseg.

Gweld yr argymhellion

Mae'r HRA hefyd wedi diweddaru eu gwefan i roi arweiniad pellach i ymgeiswyr i wella ansawdd y cais a'r diwygiadau sy’n cael eu cyflwyno, gan fanylu ar feini prawf allweddol sy'n aml yn cael eu colli yn ystod y cyflwyniad cychwynnol.

Y camau nesaf

Bydd yr argymhellion hyn yn cael eu hychwanegu fel eitem agenda o dan yr enw 'Request for Further Information (RFI) and Ethics Review Form (ERF) recommendations for REC Members' ar eich cyfarfod REC llawn nesaf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â'ch Arbenigwr Cymeradwyo.