Oes gennych chi gyflwr llygaid prin o'r enw Clefyd Stargardt?
Defnyddiwch eich profiad i lywio ymchwil a helpu ymchwilwyr i ddatblygu prosiect gyda’r nod o atal colli golwg.
Mae clefyd Stargardt yn gyflwr llygaid etifeddol prin sy'n effeithio ar yr olwg ganolog, gan wneud tasgau bob dydd fel darllen ac adnabod wynebau’n anoddach dros amser.
Trwy ddysgu mwy am y newidiadau cynnar hyn yn y llygad, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gobeithio cefnogi'r gwaith o ddatblygu triniaethau i arafu neu atal colli golwg yn y dyfodol. Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad bywyd o'r cyflwr i helpu i lunio'r astudiaeth, gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu'r hyn sydd fwyaf pwysig i'r rhai y mae’r clefyd yn effeithio arnynt.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Rydym yn chwilio am bobl:
- Sydd â chlefyd Stargardt, a/neu
- Sy’n cefnogi rhywun sydd â’r clefyd (e.e. aelod o'r teulu neu ofalwr)
Eich profiad bywyd yw'r hyn sy'n bwysicaf. Byddwch chi’n ein helpu ni i wneud yn siŵr bod yr ymchwil yn adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr hwn.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Byddwch chi’n cael eich gwahodd i:
- Rannu eich syniadau am ein cynlluniau ymchwil
- Helpu i sicrhau bod yr astudiaeth yn berthnasol i brofiadau pobl ac yn sensitif iddynt
- Adolygu dogfennau cyn y cyfarfodydd
- Pa mor hir fydd fy angen?
Bydd eich cyfranogiad yn para tua thri mis.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Un cyfarfod ar-lein, fydd yn para awr
- Hyd at bedair awr i baratoi ar gyfer cyfarfodydd a/neu adolygu dogfennau
- Beth yw rhai o'r manteision i mi?
- Cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn drwy lunio ymchwil a allai wella triniaethau yn y dyfodol
- Rhannu eich profiad bywyd er mwyn sicrhau bod yr astudiaeth yn adlewyrchu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl y mae clefyd Stargardt yn effeithio arnynt
- Dysgu am y broses ymchwil, gan gynnwys sut mae astudiaethau yn cael eu datblygu a'u cymeradwyo
- Magu hyder a meithrin sgiliau wrth gyfrannu at ymchwil iechyd
- Bod yn rhan o rywbeth ystyrlon sy'n sicrhau bod lleisiau cleifion wrth wraidd cynnydd gwyddonol
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Y Prif Ymchwilydd fydd y pwynt cyswllt; bydd ar gael ar gyfer unrhyw ymholiadau a bydd yn darparu cymorth ynghylch cyfarfodydd a’r gwaith o adolygu dogfennau.
- Telir costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol.
- Cynigir taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Darllenwch ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych chi’n derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch chi gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Fudd-daliadau ar gyfer Cyfranogi.
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Prifysgol Caerdydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm