Beth am helpu i wneud cynnwys y cyhoedd yn fwy cynaliadwy?

Ydych chi'n angerddol dros gynnwys y cyhoedd yn ystyrlon mewn ymchwil? 

Ymunwch ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel rhan o gyfle unigryw i ddatblygu modelau cyllido cynaliadwy ar y cyd sy'n cefnogi cymryd rhan gwirioneddol, effeithiol - nid yn unig mewn theori, ond yn ymarferol. Byddwch yn rhan o grŵp Gorchwyl a Gorffen sy'n gweithio gyda phobl o bob cwr o Gymru a'r DU i helpu i lunio sut mae cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil yn cael ei gefnogi a'i gyfannu ledled y gymuned ymchwil.

Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â Maes Ffocws 1 o'r rhaglen "Darganfod Eich Rôl". Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn cyfrannu at nodi, gwerthuso a llunio modelau sy'n cefnogi cynnwys y cyhoedd ystyrlon gydag adnoddau digonol, gan ddechrau gyda lleoliad ymchwil y brifysgol a’i ledaenu i’w weithredu’n ehangach ledled Cymru.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch – dim ond:

  • Parodrwydd i rannu’ch barn
  • Diddordeb mewn gwella cefnogaeth i gael pobl i gymryd rhan mewn ymchwil
  • Bod yn agored i weithio ar y cyd ag eraill
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Cymryd rhan mewn nifer fach o drafodaethau grŵp (ar-lein neu wyneb yn wyneb), lle byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr, arweinwyr cymryd rhan a chyfranwyr cyhoeddus eraill.
  • Rhannu’ch barn, eich syniadau a'ch profiadau o ran cynnwys y cyhoedd – yn enwedig yr hyn sydd wedi helpu neu’i gwneud hi'n heriol yn y gorffennol.
  • Archwilio a thrafod gwahanol fodelau o gyllido a chefnogaeth ar gyfer cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, yn enwedig mewn lleoliadau prifysgolion.
  • Helpu i ddatblygu argymhellion ymarferol ar gyfer sut y byddai modd defnyddio'r modelau hyn ledled Cymru.
    • (Dewisol) Cyfrannu at adolygu neu lunio deunydd ysgrifenedig, fel adroddiadau cryno neu argymhellion.
Am faint fydd fy angen ar y prosiect?
  • Bydd y grŵp Tasg a Gorffen yn cyfarfod unwaith y mis am 10 mis.
  • Bydd pob cyfarfod yn cael ei drefnu ymlaen llaw ac yn para tua 1 i 2 awr.
Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Helpu i lunio newid gwirioneddol yn y ffordd y mae cynnwys y cyhoedd yn cael ei gefnogi a'i ariannu yng Nghymru.
  • Gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol fel partner cyfartal.
  • Datblygu sgiliau newydd a magu hyder mewn ymchwil a thrafodaethau grŵp.
  • Bod yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o bobl sy'n angerddol dros wella ymchwil iechyd a gofal.
  • Dysgu o brofiadau pobl eraill a rhannu’ch dealltwriaeth eich hun mewn man cefnogol.

Bydd eich amser a'ch mewnbwn yn cael eu cydnabod drwy daliad neu ad-daliad lle bo hynny'n briodol.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Gwybodaeth glir am ddiben y grŵp, eich rôl a beth i'w ddisgwyl.
  • Cefnogaeth gan staff cyn, yn ystod a rhwng cyfarfodydd – gan gynnwys rhywun y gallwch gysylltu â nhw gyda chwestiynau neu bryderon.
  • Taliad neu ad-daliad am eich amser ac unrhyw dreuliau y byddwch ar eich colled o’u herwydd , lle bo hynny'n briodol.
  • Deunydd a chyfathrebu hygyrch – byddwn yn cadarnhau’r hyn sy'n gweithio orau i chi.
  • Amgylchedd croesawgar a pharchus, lle mae eich cyfraniad yn cael ei werthfawrogi'n gyfartal.

     

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Wyneb yn wyneb ac ar-lein

Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm