Helpwch i werthuso'r Cynllun Gweithredu Cynnwys y Cyhoedd Darganfod Eich Rôl
Helpwch ni i ddeall yr hyn sy'n gweithio – a’r hyn nad yw’n gweithio – o ran cynnwys y cyhoedd.
Ymunwch â grŵp goruchwylio'r rhaglen ar gyfer Darganfod Eich Rôl, cynllun gweithredu cenedlaethol â’r nod o wella sut mae'r cyhoedd yn ymwneud ag ymchwil iechyd a gofal. Dyma'ch cyfle i helpu i lunio sut yr ydym yn mesur effaith cynnwys y cyhoedd, gan sicrhau bod gwaith yn y dyfodol yn ystyrlon, yn effeithiol ac yn werthfawr.
Bydd eich llais yn helpu i ddangos y gwahaniaeth y mae cymryd rhan yn ei wneud. Nod y Cynllun Gweithredu Cynnwys y Cyhoedd Darganfod Eich Rôl yw gwella sut mae'r cyhoedd yn ymwneud ag ymchwil trwy hyrwyddo ansawdd, cysondeb a chydweithredu ledled y sector. Fel aelod o grŵp goruchwylio’r rhaglen, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith gwerthuso ystyrlon ar y cyd. Bydd eich dealltwriaeth yn helpu i ddiffinio sut olwg sydd ar lwyddiant, asesu beth sy'n gweithio'n dda a nodi meysydd i'w gwella.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
- Â diddordeb mewn gwella cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal.
- Yn hapus i rannu eu barn a'u profiadau yn agored ac yn barchus.
- Yn gallu myfyrio ar sut olwg sydd ar gyfranogi da a sut mae’n teimlo, yn seiliedig ar brofiad personol - naill ai fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o ymchwil neu a fyddai'n hoffi bod.
- Eisiau helpu i sicrhau bod lleisiau’r cyhoedd yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u defnyddio i lunio gwelliannau yn y dyfodol.
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Ymuno â chyfarfodydd prosiect rheolaidd (ar-lein neu wyneb yn wyneb) i rannu’ch barn a chlywed yr wybodaeth ddiweddaraf.
- Helpu i ddatblygu'r fframwaith gwerthuso – mae hyn yn golygu meddwl am sut olwg sydd ar "llwyddiant" ar gyfer cynnwys y cyhoedd a sut y byddai modd ei fesur.
- Adolygu deunyddiau’r prosiect fel cynlluniau, adnoddau adborth neu adroddiadau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu persbectif cyhoeddus.
- Cynnig adborth ar yr hyn sy'n gweithio'n dda, beth y byddai modd ei wella, ac a yw cymryd rhan yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
- Cyfrannu at wirio synnwyr ac adrodd fel bod canfyddiadau'n glir, yn berthnasol ac yn hygyrch i eraill.
- Am faint fydd fy angen ar y prosiect?
- Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal tua bob 6 i 8 wythnos, yn para tua 1.5 i 2 awr, naill ai ar-lein neu mewn fformat hybrid.
- Rhywfaint o amser ychwanegol rhwng cyfarfodydd i ddarllen dogfennau neu roi adborth, a fydd, fel arfer, yn cymryd 1 i 2 awr gan ddibynnu ar yr amser sydd ar gael gennych.
- Hyblygrwydd i gymryd rhan cyhyd ag sy'n gyfleus i chi – p’un ai yw hynny'n ychydig o gyfarfodydd neu hyd ddiwedd y prosiect.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Gallwch achub ar y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy helpu i wella cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal
- Gallwch ddefnyddio’ch profiad bywyd i ddylanwadu ar sut mae ymchwil yn y dyfodol yn cael ei gynllunio a'i gynnal
- Byddwch yn dysgu mwy am sut mae cynnwys y cyhoedd a gwerthuso yn gweithio’n ymarferol
- Byddwch yn ennill sgiliau newydd a magu hyder trwy weithio gydag ymchwilwyr a chyfranwyr cyhoeddus eraill
- Mae hyblygrwydd ynghylch cymryd rhan yn golygu y gallwch ei drefnu o amgylch eich ymrwymiadau eraill
- Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad neu dreuliau yn unol â chanllawiau cenedlaethol
- Byddwch yn rhan o grŵp cefnogol sy'n gweithio tuag at well cynnwys y cyhoedd ledled Cymru
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Person cyswllt wedi'i enwi i ateb cwestiynau, cadw mewn cysylltiad, a chynnig arweiniad trwy gydol eich cyfnod yn cymryd rhan
- Ffyrdd hyblyg o gymryd rhan – bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein neu mewn fformat hybrid, a byddwn yn gwneud ein gorau i drefnu yn ôl yr amser yr ydych ar gael
- Sesiynau briffio neu sesiynau hyfforddi (os oes eu hangen arnoch) fel eich bod chi'n teimlo'n hyderus i gyfrannu
- Taliad neu ad-daliad yn unol â'r canllawiau cenedlaethol (er enghraifft, ar gyfer eich amser, eich costau teithio neu gostau eraill, lle bo hynny'n berthnasol)
Llenwch y ffurflen isod:
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Wyneb yn wyneb ac ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm