
“Rwyf am i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd deimlo y gallan nhw gymryd rhan mewn ymchwil”
15 Gorffennaf
Mae Therapi Iaith a Lleferydd yn un o 13 o Broffesiynau Perthynol i Iechyd yng Nghymru sydd wedi’u targedu fel rhan o gynllun gweithredu ymchwil newydd gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at ehangu cyfleoedd i’r proffesiynau hyn gymryd rhan mewn ymchwil ar bob lefel.
Mae Emma Louise Sinnott yn Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gwasanaeth adsefydlu niwrolegol cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hi wedi cyhoeddi gwaith yn flaenorol sy’n gwerthuso teithiau academaidd clinigol, gan nodi’r strwythurau a’r gefnogaeth a fyddai’n helpu mwy o nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gamu i yrfaoedd ymchwil, er nad oes diwylliant ymchwil cryf wedi bod ynghlwm wrth y rolau hyn yn draddodiadol.
Mae’r cynllun gweithredu newydd hefyd yn anelu at herio rhagdybiaethau traddodiadol ynghylch cymryd rhan mewn ymchwil. Dywedodd Emma Louise,
Rwy’n credu bod yna gymaint o stereoteipio ynghylch ymchwil. Rydych chi’n meddwl am wyddonydd yn gwisgo cot wen mewn labordy ond, mewn gwirionedd, mae cymaint yn digwydd ar lawr gwlad yn ein gwaith clinigol y gallen ni ei ystyried yn ymchwil a dydyn ni ddim yn sylweddoli hynny. Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun gweithredu hwn yn helpu i newid y canfyddiadau hynny.”
Mae Emma Louise yn eiriolwr cryf dros fentora eraill a’u cefnogi i ymgymryd â gyrfaoedd academaidd clinigol, ond mae’n cydnabod y gwaith sydd ei angen i ymwreiddio ymchwil yn llawn yn y llwybr gyrfa. Mae hi’n gobeithio gweld y cynllun hwn yn helpu i sefydlu ymchwil fel rhan graidd o’r rolau hyn, o lefel myfyrwyr ymlaen.
Parhaodd Emma Louise, “Mae mentora pobl i sefydlu gyrfaoedd academaidd mwy clinigol yn bwysig iawn i mi. Mae’n wych gweld mwy o ymdrech yn cael ei wneud i ymwreiddio ymchwil yn y GIG ac yn y llwybr gyrfa, fel nad yw pobl yn teimlo mai dim ond clinigydd neu academydd y gallan nhw fod – fe allan nhw ddod â’r llwybrau hynny at ei gilydd. Rwyf wir eisiau i fyfyrwyr a’r rhai sydd newydd gymhwyso deimlo y gallan nhw gymryd rhan mewn ymchwil, ac i gydweithwyr â chymhwyster PhD allu rhoi eu sgiliau ar waith o hyd gyda chleifion.”
Darllenwch fwy am y cynllun gweithredu yma.