Helpu i gynrychioli llais y claf ym maes biofancio canser yng Nghymru?
Defnyddiwch eich profiadau o fyw gyda chanser i helpu i lunio a datblygu'r biofanc.
Mae gan Biofanc Canser Cymru Grŵp Cyswllt a Moeseg Lleyg sy'n cynnwys cleifion, aelodau lleyg a staff prosiect. Mae'r grŵp yn helpu i sicrhau bod ei aelodau'n cymryd rhan frwd yn y penderfyniadau gweithredol a datblygiad y biofanc yn y dyfodol. Maent yn croesawu ac yn gwerthfawrogi'r cyngor y gall cleifion sy’n aelodau ei roi fel pobl sy'n mynd trwy'r daith ganser, neu sydd wedi mynd trwy'r daith canser.
Mae Biofanc Canser Cymru yn fanc biolegol sy'n casglu, prosesu a storio samplau biolegol, fel samplau meinwe neu hylif, a data gan gleifion canser yng Nghymru ar gyfer prosiectau ymchwil yn y dyfodol.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- fod yn byw yng Nghymru
- fod wedi bod ar daith ganser, neu ar hyn o bryd ar daith ganser
- bod â diddordeb mewn moeseg sy'n ymwneud â samplau biolegol cleifion
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Byddwch yn helpu i godi ymwybyddiaeth o Biofanc Canser Cymru gyda grwpiau a sefydliadau cleifion.
- Byddwch yn helpu i adolygu cynllun Biofanc Canser Cymru ar gyfer sut maen nhw'n cyfathrebu eu negeseuon.
- Pa mor hir fydd fy angen?
- The group meets three to four times per year. Meetings will be mainly online, with a possibility of one face to face meeting per year in Cardiff.
- Membership of the group is open-ended
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Sicrhau bod safbwynt y claf a'r cyhoedd yn cael ei glywed
- Gwneud gwahaniaeth yn y gymuned ymchwil canser
- Sicrhau bod llais y claf wedi'i ymgorffori yn y strwythur sefydliadol
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol,
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.
Cwblhewch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Biofanc Canser Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm