notebook

Yr Awdurdod Ymchwil Iechyd yn diweddaru'r cytundebau model masnachol ar gyfer sefydliadau GIG ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n cymryd rhan

7 Awst

Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd wedi cyflwyno diweddariadau newydd i'r cytundebau model masnachol i'w defnyddio gyda sefydliadau'r GIG ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IGC) sy'n cymryd rhan. 

Mae'r rhain wedi'u diweddaru i gyd-fynd â'r Cytundebau model Prif Ymchwilydd Masnachol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025.

Mae hyn ledled y DU ac mae'n effeithio ar noddwyr masnachol, sefydliadau ymchwil contract, sefydliadau'r GIG a sefydliadau IGC o 30 Gorffennaf eleni. 

Mae'r gyfres ganlynol o gytundebau model masnachol i'w defnyddio gyda sefydliadau'r GIG a'r IGC sy'n cymryd rhan:

  • Cytundebau model Treialon Clinigol (mCTAs) gan gynnwys:
    • yr mCTAs Gofal Sylfaenol (PC-mCTAs)
    • y mCTAs Cynnyrch Meddyginiaethol Therapi Uwch (ATMP-mCTAs)
  • Cytundebau model Ymchwilio Clinigol (mCIAs)
  • Cytundebau model Astudio Heb Ymyrraeth (mNISAs)
  • Cytundeb model Adnabod Cyfranogwyr Masnachol (mC-PICA)
  • Cytundeb model Prif Ganolfan a Lloerennau Masnachol
  • Cytundebau model Datgelu Cyfrinachol (mCDAs)

Beth sy'n newid?

Mae'r diffiniadau o 'Asiant' a 'Gwybodaeth Gyfrinachol' ym mhob un o'r cytundebau hyn wedi'u diweddaru i gyd-fynd â'r newidiadau diweddar a wnaed i'r Cytundebau model Prif Ymchwilydd Masnachol (mCCIAs). 

Gall y prif ymchwilydd nawr rannu gwybodaeth gyfrinachol â darpar sefydliadau'r GIG a'r IGC a’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd wedi egluro y gall parti arall, fel sefydliadau ymchwil contract, lofnodi'r cytundeb ar ran y noddwr - nid un ymgysylltiedig yn unig. 

Mae cywiriadau hefyd wedi'u gwneud ar ôl derbyn adborth ynghylch y fersiynau blaenorol. 

Mae'r Awdurdod Ymchwil Iechyd (AYI) yn argymell bod noddwyr yn defnyddio fersiynau Gorffennaf 2025 o'r cytundebau hyn yn eu cyflwyniadau System Ymgeisio Integredig ar gyfer Gwaith Ymchwil (IRAS) cyn gynted â phosibl. Dim ond fersiynau Gorffennaf 2025 o'r cytundebau fydd yn cael eu derbyn o 1 Hydref 2025 ymlaen. 

Ni fydd fersiynau Mai 2025 o'r mCTAs, mCIAs, mNISAs, mC-PICA na'r Cytundeb model Prif Ganolfan a Lloerennau Masnachol yn cael eu derbyn mewn cyflwyniadau IRAS newydd ar ôl 30 Medi 2025.      

Beth mae hyn yn ei olygu i safleoedd sy'n aros i lofnodi mCDAs neu sy'n dal i gael eu sefydlu?

Gellir parhau i gyfnewid unrhyw gytundeb nad yw eisoes wedi'i gyfnewid (wedi'i lofnodi gan y ddau barti ac wedi ei ddychwelyd i'r noddwr neu fod y noddwr wedi derbyn hysbysiad) gan ddefnyddio fersiwn Ebrill 2024 o'r mCDAs neu fersiwn Mai 2025 o'r cytundeb sefydliad sy'n cymryd rhan. Does dim angen defnyddio'r templedi diweddaraf os ydych eisoes wedi dechrau trafodaethau.

Fodd bynnag, os yw fersiwn Mehefin 2025 o'r Cytundebau model Prif Ymchwilydd Masnachol wedi'i defnyddio i gontractio gyda'r GIG neu'r IGC, mae'r AYI yn argymell defnyddio fersiwn Gorffennaf 2025 o gytundebau sefydliad y GIG sy'n cymryd rhan.

Bydd hyn yn cefnogi prif ymchwilwyr i rannu gwybodaeth gyfrinachol am astudiaethau unigol â sefydliadau'r GIG sy'n cymryd rhan, pan fo angen.

Os yw'n well gan noddwyr ddefnyddio fersiwn Gorffennaf 2025 o'r cytundeb perthnasol i gontractio gyda sefydliadau'r GIG a IGC, nid oes angen cyflwyno diwygiad i ddefnyddio'r templed contract diwygiedig. 

Pa gytundeb y gallaf ei ddefnyddio?

Gallwch ganfod mwy am ba gytundebau y gallwch eu defnyddio yn dibynnu ar gam eich prosiect ymchwil ar wefan yr AYI. 

Beth sydd angen i chi ei wneud?

Rhannwch yr wybodaeth hon â phobl yn eich sefydliad sy'n cytuno ac yn llofnodi contractau ymchwil. 

Yma gallwch weld y templedi sydd eu hangen ar gyfer cyflwyniadau IRAS o fis Hydref 2025.