Bennaeth Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru

Mae cyfle unigryw a chyffrous wedi codi i unigolyn eithriadol gael ei benodi yn Bennaeth Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru (CRDW).

Mae Pennaeth Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru (CRDW) yn rôl genedlaethol proffil uchel sy'n darparu uwch arweinyddiaeth weladwy, ddeinamig ac effeithiol, ar draws ffiniau sefydliadol a heb hierarchaethau rheoli confensiynol, gan ddarparu arweinyddiaeth ar yr ystod lawn o faterion sy'n gysylltiedig â Rhaglen Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru.

Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ymagwedd gadarnhaol a hyblyg tuag at anghenion y Gwasanaeth, bod yn llawn cymhelliant, yn barod ar gyfer yr her nesaf ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur iawn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Arwain gweithrediad gweithredol Rhaglen Buddsoddi Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio yng Nghymru, gan reoli rhaglenni arbenigol i sicrhau bod y cynlluniau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus ar draws GIG Cymru, a bod yr holl risgiau ariannol a chyflawni yn cael eu rheoli lliniaru
  • Cyfarwyddo, arwain a goruchwylio Canolfan Cyflawni Ymchwil Fasnachol Cymru gan ddod â'r arweinwyr clinigol o fewn CRDC Cymru at ei gilydd i ddarparu gwasanaeth cyflawni ymchwil fasnachol o'r ansawdd uchaf fel rhan o Rwydwaith CRDC y DU
  • Arwain ar weithgareddau allweddol yng nghynllun ymgysylltu â diwydiant Cymru ar gyfer cyflawni ymchwil, cyfarfod â phartneriaid masnachol i feithrin perthnasoedd a phartneriaethau strategol newydd, gweithio gyda'r Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Cyflawni Ymchwil a Diwydiant, Arweinwyr Arbenigedd Cymru ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Ymchwil Canser Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
  • Goruchwylio Partneriaethau Strategol ymchwil fasnachol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan sicrhau bod y cynlluniau, y cerrig milltir a'r cynlluniau ariannol y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus
  • Goruchwylio cyflawni ymchwil fasnachol yng Nghymru monitro sefydlu astudiaethau, cydymffurfio â'r broses y cytunwyd arni yn y DU mewn perthynas ag Adolygiad Gwerth Contract Cenedlaethol, recriwtio i amser a tharged, rhagweld ac ymateb i broblemau perfformiad wrth iddynt godi ar draws GIG Cymru
Contract type: Cyfnod Penodol: 44 misoedd
Hours: Llawn amswer
Salary: Band 8d £92,713 - £106,919 y flwyddyn per annum
Lleoliad: Caerdydd (National Post)
Job reference:
070-AC105-0825
Closing date: