
Cymru i gynnal astudiaeth ar frechlyn newydd yn erbyn canser y pen a’r gwddf
14 Awst
Mae cleifion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn astudiaeth o frechlyn canser ymchwiliol sydd â’r nod o drin canserau'r pen a'r gwddf a achosir gan Feirws Papiloma Dynol 16 (HPV-16).
Mae'r brechlyn canser ymchwiliol yn defnyddio technoleg asid riboniwcleig negesydd (mRNA) i helpu'r system imiwnedd i adnabod a lladd celloedd canser sy'n cynnwys proteinau sy’n gysylltiedig ag HPV-16. Yn yr astudiaeth, mae'r brechlyn canser mRNA ymchwiliol yn cael ei roi mewn cyfuniad ag imiwnotherapi sefydledig o'r enw Pembrolizumab, sydd â’r nod o helpu i wella'r ffordd y mae'r ymateb imiwnedd yn cael ei gyfeirio yn erbyn celloedd canser sy'n cynnwys HPV.
Mae'r astudiaeth ar agor yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, ac mae'n hygyrch i gleifion ledled Cymru, yn rhan o ddull cydgysylltiedig o gyflwyno astudiaethau a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Phartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd. Gellir atgyfeirio cleifion hefyd at Felindre o rannau eraill o'r DU drwy'r Cancer Vaccine Launchpad (CVLP), cyfrwng a sefydlwyd gan y GIG yn Lloegr a Genomics England, i helpu i ledaenu mynediad cleifion canser at astudiaethau clinigol gan gynnwys astudiaethau clinigol brechlyn canser mRNA.
Mae dros 700 o achosion newydd o ganser y pen a'r gwddf yn cael diagnosis yng Nghymru bob blwyddyn, gyda chanserau fel arfer yn datblygu yn y geg, y gwddf neu'r blwch llais. Mae canserau a achosir gan HPV yn tueddu i ddigwydd yn y tonsiliau a chefn y tafod, ac yn cyfrif am 20-40% o ganserau'r pen a'r gwddf yn gyffredinol. Er gwaethaf datblygiadau mewn gofal i gleifion â chanser y pen a'r gwddf, mae'r ffurf ddatblygedig o'r clefyd yn anodd ei drin ac mae’r cyfraddau dychwelyd yn uchel, gyda chyfraddau goroesi dwy flynedd o dan 50%.
Mae'r brechlyn canser ymchwiliol wedi'i gynllunio i amgodio dau brotein sydd i'w cael yn aml mewn canserau pen a gwddf a achosir gan HPV math 16, y math mwyaf cyffredin o HPV a geir mewn canser y pen a'r gwddf. Mae'r brechlyn wedi'i gynllunio i gyfeirio'r system imiwnedd i ymladd y canser yn benodol.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a sefydliadau ledled y DU yn partneru â chwmni gwyddorau bywyd BioNTech i helpu i nodi cleifion a allai fod yn gymwys i’w hatgyfeirio i Felindre ac ysbytai eraill y GIG sy'n cynnal y treial clinigol.
Dywedodd yr Athro Mererid Evans, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Athro Clinigol yn yr Is-adran Canser a Geneteg, Prifysgol Caerdydd, ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol sy'n arbenigo mewn trin canser y pen a'r gwddf yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
"Mae canserau'r pen a'r gwddf sy'n gysylltiedig ag HPV wedi bod yn cynyddu o ran nifer yr achosion yng Nghymru a gweddill y byd datblygedig dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf, ac rydym yn ei weld yn gyffredin yn ein clinigau. Mae cleifion sy'n cael diagnosis o ganser y pen a'r gwddf sy'n gysylltiedig ag HPV yn tueddu i wneud yn dda yn gyffredinol, ond yn anffodus mae cyfran fach (10-20%) yn canfod bod eu canser wedi lledaenu gan ei gwneud yn anodd ei drin gyda thriniaethau presennol.
"Rydym yn falch o gefnogi'r astudiaeth hon er mwyn caniatáu i gleifion canser y pen a'r gwddf yng Nghymru gael mynediad at driniaeth a allai o bosibl wella eu canlyniadau. Rydym hefyd yn cefnogi treialon brechlyn canser BioNTech eraill drwy recriwtio cleifion cymwys o Gymru a rhannau eraill o'r DU iddynt. Wrth wneud hynny, mae Cymru yn chwarae ei rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu triniaethau canser sydd â'r potensial o wella gofal i bobl ledled y byd yn y dyfodol."
Ychwanegodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae'r cyfle i gael mynediad at driniaeth ymchwiliol a allai helpu'r system imiwnedd i dargedu canser yn anhygoel o arwyddocaol.
"Rydym yn gweithio'n agos ar draws byrddau iechyd yng Nghymru i sicrhau bod cleifion cymwys yn cael eu hatgyfeirio'n effeithlon i’r astudiaeth arloesol hon sy'n recriwtio yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae'n gam pwerus ymlaen i gynyddu mynediad cleifion at opsiynau ymchwiliol yn eu triniaeth ac yn ein hymdrechion ar y cyd i wella canlyniadau a chynnig gobaith o'r newydd i gleifion a'u teuluoedd ledled y wlad."
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.