
Astudiaeth a ddefnyddiodd data SAIL yn canfod y gallai problemau cysgu ddyblu’r risg o ddementia yn ddiweddarach mewn bywyd
21 Awst
Mae astudiaeth a ddefnyddiodd data o ganolfan a ariennir gennym, SAIL Databank, wedi canfod y gallai diagnosis o anhwylder cysgu olygu bod unigolion hyd at ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd niwroddirywiol yn y 15 mlynedd dilynol.
Gweithiodd gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd gyda chydweithwyr o’r NIH Intramural Center for Alzheimer’s and Related Dementias yn yr Unol Daleithiau yn un o’r astudiaethau mwyaf o’i math.
Aeth y tîm ymchwil ati i archwilio’r berthynas rhwng anhwylderau cysgu a chlefyd niwroddirywiol, gan ddefnyddio data o fwy nag un filiwn o gofnodion iechyd electronig. Edrychodd yr astudiaeth i weld a yw cwsg amharedig yn arwydd cynnar o niwroddirywiad neu a yw’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn datblygu dementia yn ddiweddarach.
Aeth yr ymchwilwyr ati i ddadansoddi data o dri banc bio mawr: Banc Data SAIL yn Abertawe, Banc Bio y DU, a FinnGen yn y Ffindir. Ar draws y setiau data hyn, cawsant fynediad at gofnodion meddygol cywir â dyddiadau arnynt a oedd yn dangos pryd y cafodd unigolion ddiagnosis o anhwylderau cysgu.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar bobl a oedd wedi cael diagnosis o un anhwylder cysgu neu fwy. At ddibenion dadansoddi data, cafodd yr anhwylderau hyn eu gosod mewn categorïau, gan gynnwys y rhai sy’n amharu ar rythmau beunyddiol—fel narcolepsi, dal anadl wrth gysgu, hypersomnia (teimlo’n eithriadol o gysglyd yn ystod y dydd), a pharasomnia (symudiadau neu ymddygiadau annormal wrth gysgu, gan gynnwys cerdded yn eich cwsg a chael dychryndodau)—yn ogystal â sythbarlys.
Edrychodd yr ymchwilwyr hefyd ar anhwylderau cysgu ‘anorganig’, nad ydynt yn gysylltiedig ag achos ffisiolegol hysbys, gan gynnwys cyflyrau fel diffyg cwsg cyffredinol a hunllefau. Gan ddefnyddio dulliau ystadegol ar raddfa fawr, aeth y tîm ati i fapio’r perthnasoedd rhwng gwahanol glefydau niwroddirywiol ac anhwylderau cysgu. Daeth sawl patrwm pwysig i’r amlwg.
Ar gyfer dementia lle na chafodd y math penodol o glefyd ei gofnodi, roedd cysylltiad rhwng anhwylderau cysgu beunyddiol ac anhwylderau cysgu anorganig a risg gynyddol o ddatblygu dementia o fewn 10 i 15 mlynedd i gael diagnosis o’r anhwylder cysgu. Roedd y risg hon hyd yn oed yn uwch ymhlith unigolion â sawl math o anhwylder cysgu. Mewn achosion o glefyd Alzheimer, roedd cysylltiad rhwng anhwylderau cysgu beunyddiol a risg gynyddol o ddatblygu’r cyflwr o fewn 10 i 15 mlynedd yn dilyn diagnosis o anhwylder cysgu.
Ar gyfer dementia fasgwlaidd, roedd cysylltiad rhwng anhwylderau cysgu beunyddiol ac anhwylderau cysgu anorganig a risg uwch o fewn 5 i 10 mlynedd. Roedd y risg hyn yn oed yn uwch eto ymhlith pobl â diagnosis o sawl anhwylder cysgu. Yn yr un modd, ar gyfer clefyd Parkinson, roedd cysylltiad rhwng anhwylderau cysgu beunyddiol ac anhwylderau cysgu anorganig a risg gynyddol o ddatblygu’r cyflwr o fewn 10 i 15 mlynedd.
Yn bwysig, canfu’r astudiaeth hefyd fod anhwylderau cysgu yn cynyddu’r risg o glefyd Alzheimer a Parkinson yn annibynnol ar risg enetig. Hyd yn oed ymhlith pobl â thueddiad genetig isel, roedd anhwylder cysgu yn cynyddu’r risg gyffredinol. Mae hyn yn awgrymu bod anhwylderau cysgu a ffactorau genetig yn debygol o ddylanwadu ar y risg o glefyd ar wahân, drwy fecanweithiau annibynnol.
Dywedodd Dr Emily Simmonds o Brifysgol Caerdydd: “Yn ein hastudiaeth, roeddem eisiau deall y berthynas gymhleth rhwng cwsg a dementia. Yn aml, mae pobl sy’n byw gyda dementia yn profi problemau cysgu, ond does dim digon o dystiolaeth hyd yma i ddweud yn sicr a yw cwsg gwael yn cynyddu’r risg o ddementia.
“Y nod oedd gweld a allem nodi’r dilyniant o ddigwyddiadau. Drwy ddefnyddio data banc bio, fe gawson ni gofnodion â dyddiadau a oedd yn nodi pryd roedd pobl wedi profi anhwylderau cysgu ac yn union pryd y cawson nhw ddiagnosis wedyn o glefyd niwroddirywiol - yn hytrach na dibynnu ar wybodaeth hunangofnodedig.”
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil, cyfleoedd cyllido a gwybodaeth ddefnyddiol arall.