Ydych chi neu'ch partner yn cynllunio ble i roi genedigaeth?
Helpwch ymchwilwyr i ddeall pa fath o wybodaeth y mae menywod a'u partneriaid ei eisiau wrth benderfynu lle i roi genedigaeth.
Mae ymchwil ac adolygiadau o wasanaethau mamolaeth yn awgrymu nad yw llawer o fenywod yn cael digon o wybodaeth am eu dewisiadau wrth gynllunio lle i roi genedigaeth.
Nawr, mae ymchwilwyr eisiau siarad â menywod sydd naill ai'n feichiog, ar hyn o bryd, yn cynllunio beichiogrwydd neu sydd wedi rhoi genedigaeth o fewn y flwyddyn ddiwethaf, neu eu partneriaid, i ddeall beth maen nhw eisiau ei wybod ac unrhyw fylchau mewn gwybodaeth a roddir iddynt am ble i eni eu babi.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
Bydd angen i chi fod:
- Yn barod i rannu eich barn a'ch profiadau
- Yn gallu ymuno â chyfarfod ar-lein
- Yn feichiog, yn cynllunio beichiogrwydd ar hyn o bryd neu wedi rhoi genedigaeth o fewn y flwyddyn ddiwethaf (neu'n bartner i'r uchod)
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
- Gofynnir i chi drafod eich barn a'ch profiadau wrth gynllunio lle i roi genedigaeth.
- Pa mor hir fydd fy angen?
- Bydd eich angen ar gyfer un cyfarfod fydd yn para awr rhwng 10:30 ac 11:30 ar 10 Medi.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Bod yn rhan o brosiect a allai newid y ffordd y rhoddir gwybodaeth wrth gynllunio ble i roi genedigaeth
- Profiad gwerthfawr o weithio gydag ymchwilwyr ac aelodau eraill o’r cyhoedd
- Helpu i wneud yn siŵr bod llais y cyhoedd yn cael ei glywed.
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
- Byddwn yn cysylltu â mynychwyr ymlaen llaw a bydd cyfle iddynt i ofyn cwestiynau
Edrychwch ar ein canllawiau i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.
Cwblhewch y ffurflen isod
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad Lletyol:
Canolfan Ymchwil Treialon
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm