Pobl go iawn, effaith go iawn: Sut y gallwch chi helpu i lunio ymchwil yng Nghymru
Ledled Cymru, mae pobl gyffredin, cleifion a gofalwyr, yn camu i fyd ymchwil, boed hynny'n cynnwys cymryd rhan mewn astudiaeth, rhannu gwybodaeth am dreial neu helpu i lunio a dylunio prosiect ymchwil. Nid yr ymchwil yn unig sy'n cael budd, mae llawer o bobl sy'n cymryd rhan yn aml yn dweud ei fod yn un o'r pethau mwyaf gwerth chweil maen nhw wedi'i wneud erioed.
Helo, Emma Langley ydw i, Swyddog Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rydw i wedi bod yn helpu pobl i gymryd rhan yn y gwaith o lunio ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol dros y 14 mlynedd diwethaf. Rydw i wedi gweld bod pobl sy'n cymryd rhan drwy gynnwys y cyhoedd yn aml yn gweld bod y profiad yn eu newid nhw, nid dim ond yr ymchwil.
Er mwyn deall gwir effaith cynnwys y cyhoedd yn well, siaradais â rhai o'n cymuned cynnwys y cyhoedd – dyma’r hyn yr oedd ganddyn nhw i'w ddweud
Tony – helpu i gyflwyno "dynoliaeth i ymchwil"
Mae Anthony Cope (Tony) wedi bod yn ymwneud ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ers mis Mehefin 2022. Mae Tony, gwyddonydd biofeddygol wrth ei alwedigaeth, yn byw gyda salwch meddwl a Covid hir. Mae wedi canfod bod cynnwys y cyhoedd wedi ei alluogi i ddefnyddio ei sgiliau proffesiynol a'i brofiad personol i helpu ymchwilwyr. Oherwydd ei gyflyrau iechyd anrhagweladwy, mae cynnwys y cyhoedd yn ei helpu i ychwanegu strwythur i'w ddiwrnod, ac mae'r ymchwilwyr yn ei gael ar ei orau, gan nad yw'n cael trafferth gyda blinder. Mae hyn yn caniatáu iddo gyfrannu at y gwaith ymchwil gwerthfawr sy'n cael ei wneud ond hefyd i weld y gwahaniaeth y gall cynnwys y cyhoedd ei wneud, gan ei annog i wneud mwy. Mae'n teimlo, drwy gymryd rhan, ei fod wedi helpu i gyflwyno "dynoliaeth i ymchwil a datblygu ymchwil, yn yr hyn a all fod yn broses eithaf clinigol a gall helpu ymchwilwyr i gofio a theimlo hynny". Mae Tony bellach yn gyd-gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru, gan dynnu ar ei brofiadau a fydd yn helpu i lunio ymchwil a gwasanaethau yn y dyfodol a all ymateb yn gyflym i'r heriau cynyddol o fewn y GIG.
Sarah – "awydd go iawn i fod yn wirioneddol ddefnyddiol"
Aelod arall o'n cymuned cynnwys y cyhoedd yw Sarah Peddle, sydd wedi bod yn aelod ers 2017. Roedd Sarah yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng gwaith llawn amser a bod yn fam i ddau blentyn bach pan sylweddolodd fod ei hiechyd corfforol wedi dirywio. Yn anffodus, cafodd Sarah ddiagnosis o gyflwr iechyd cronig, a oedd yn golygu bod yn rhaid iddi roi'r gorau i swydd yr oedd hi'n ei charu. Pan ddaeth ei chyflwr yn haws ei drin, gwelodd Sarah hysbyseb i ymuno â grŵp cynghori o'r enw PARC (Population Advice for Research Committee) sef y Pwyllgor Cyngor Poblogaeth ar gyfer Ymchwil yn Abertawe.
Roedd hwn yn drobwynt i Sarah, wrth iddi sylweddoli y gallai ei phrofiad proffesiynol, a’r ffaith ei bod yn byw gyda chyflwr iechyd cronig hirdymor, ganiatáu iddi ddod o hyd i'w hymdeimlad o’r hunan eto gan roi iddi "awydd go iawn i fod yn wirioneddol ddefnyddiol ac i wneud rhywbeth eto."
Er ei bod hi'n ymwybodol bod ymchwil yn mynd rhagddo yng Nghymru a bod pobl yn gallu cymryd rhan, doedd hi ddim yn ymwybodol y gallai pobl gymryd rhan yn y gwaith o’i lunio a'i ddatblygu.
Mae Sarah wedi helpu i lunio llawer o brosiectau ac wedi gweithio gyda sawl tîm ymchwil, ac mae hi bellach yn arweinydd Cynnwys y Cyhoedd ar brosiect synthesis tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n defnyddio ei phrofiad i helpu i gefnogi aelodau'r cyhoedd.
Ac nid oedolion yn unig sy'n cymryd rhan mewn gwaith llunio ymchwil a rhannu eu profiadau, rydym hefyd wedi cefnogi llawer o blant a phobl ifanc. Un o'r rheini oedd Praveena.
Praveena – fe wnaeth cymryd rhan arwain at "deimlo'n fwy hyderus"
Dechreuodd taith Praveena pan oedd ym Mlwyddyn 12 yn yr ysgol uwchradd ac ymunodd â DECIPHer Alpha, grŵp ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed i weithio gydag ymchwilwyr iechyd cyhoeddus i roi persbectif ar yr hyn sy'n bwysig i bobl ifanc. Pan gafodd ei chyflwyno gan ffrind, sbardunodd ei diddordeb yn y byd ymchwil. Mae hi'n sicr bod cymryd rhan wedi peri iddi "deimlo'n fwy hyderus" gan ychwanegu ei fod "wedi rhoi'r gallu iddi ddweud ei dweud a mynegi barn, gan ei bod yn cofio teimlo'n eithaf swil pan ddechreuodd am y tro cyntaf."
Chwe blynedd yn ddiweddarach mae Praveena yn dal i helpu i lunio ymchwil gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn helpu i ysgrifennu crynodebau lleyg, i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn gallu deall yn rhwydd beth yw'r ymchwil. Mae hi wrth ei bodd wrth feddwl bod pobl yn gallu darllen a deall yr hyn mae hi wedi'i ysgrifennu. Nawr ei bod hi yn ei blwyddyn olaf yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Praveena yn defnyddio'r profiad y mae wedi'i gael i gefnogi ymchwilwyr a myfyrwyr eraill trwy eu hannog i gynnwys y cyhoedd yn eu prosiectau.
Wrth siarad â Tony, Sarah a Praveena, rydych chi'n cael ymdeimlad o'r balchder y maen nhw'n ei deimlo wrth wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud. Mae pob un ohonynt yn angerddol ac yn frwdfrydig am eu profiadau drwy gynnwys y cyhoedd a sut mae wedi llunio eu bywydau. Gofynnais i bob un ar ddiwedd ein cyfarfod i roi rhywfaint o gyngor i rywun sy'n ystyried cymryd rhan, roedd eu hateb yr un peth - ewch amdani. Ychwanegon nhw y bydd yn rhoi cyfle i’ch llais gael ei glywed, gwneud cysylltiadau â phobl a chyflawni’r newid rydych chi eisiau ei weld.
Os hoffech chi gymryd rhan, gallwch gysylltu â'r tîm a fydd yn eich helpu.