a_drone_in_the_air

Gallai drôn ddod â diffibriliwr i gleifion sydd ag ataliad ar y galon yn y DU

28 Awst

Mae'r posibilrwydd y gallai dronau ddod â diffibrilwyr i bobl sy'n dioddef ataliad ar y galon yn y DU yn agosach at gael ei wireddu nag erioed o'r blaen, diolch i ymchwil a gefnogwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae ymchwilwyr a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), wedi cynnal profion ar ddefnyddio dronau i ymateb i alwadau 999 mewn ymarferion efelychu sefyllfaoedd brys yn rhan o astudiaeth arloesol. 

Ymunodd arbenigwyr ym Mhrifysgol Warwick ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r arbenigwyr drôn ymreolaethol SkyBound ar gyfer yr astudiaeth. Fe wnaeth y dronau - a dderbyniodd gyllid costau ychwanegol triniaethau gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - hedfan diffibrilwyr i ymarfer hyfforddi mewn lleoliad cefn gwlad anghysbell lle byddai’n cymryd cryn amser i griwiau ambiwlans gyrraedd ar y ffordd.

Mae canlyniadau'r astudiaeth – o'r enw 'The 3D project' – wedi eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn Resuscitation Plus. Mae ymchwilwyr yn gobeithio mai dyma'r cam nesaf tuag at y dechnoleg sy'n cael ei defnyddio mewn lleoliadau bywyd go iawn ac ar draws y GIG.

Dyluniodd ymchwilwyr system i gyflwyno diffibriliwr allanol awtomatig (AED) ynghlwm wrth winsh i ddrôn DJI M300 yn dilyn galwad 999. Roedd meddalwedd drôn awtomataidd Skybound yn actifadu ac yn rheoli hediad y drôn. Cafodd yr AED ei ostwng i aelod o'r cyhoedd i'w helpu i gynnal adfywiad cardiopwlmonaidd (CPR) ar fodel o gorff dynol, tra’n derbyn cyfarwyddiadau gan swyddogion trin galwadau’r gwasanaeth ambiwlans.

Roedd yr astudiaeth, a recriwtiodd 11 o gyfranogwyr, yn cynnwys asesu cyfathrebu ar y pryd rhwng peilot y drôn, y swyddog trin galwadau a'r aelod o’r cyhoedd. Sylwodd arbenigwyr sut roedd y rhai sy'n cymryd rhan yn ymddwyn ac yn rhyngweithio â'i gilydd. Fe wnaethant hefyd amseru pa mor gyflym y byddai'n ei gymryd i gyrraedd y claf ffug. 

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn dangos bod y dechnoleg yn addawol iawn. Hedfanodd y drôn yn annibynnol ac yn ddiogel, gyda chysylltiadau da â'r gwasanaeth ambiwlans. Ymatebodd cyfranogwyr yn gadarnhaol i gael gafael ar yr AED â drôn. 

Y cam nesaf fydd ariannu astudiaethau mwy i brofi'r dechnoleg a gwerthuso a ellir ei defnyddio yn y GIG. Ar hyn o bryd, defnyddir dronau i gludo diffibrilwyr mewn rhai amgylchiadau yn Denmarc a Sweden.

Dywedodd Carl Powell, Arweinydd Clinigol (Gofal Acíwt) yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mewn achos o ataliad ar y galon, mae pob eiliad yn cyfrif. Byddwn bob amser yn anfon ambiwlans cyn gynted â phosibl, ond gallai dechrau cywasgiadau'r frest a chyflwyno sioc drydanol gyda diffibriliwr yn y cyfamser olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

“Rydym yn ddiolchgar i NIHR ac eraill am ariannu'r ymchwil hon, sydd wedi dangos bod y dechnoleg yn dangos llawer iawn o addewid.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i archwilio a phrofi ymhellach sut y gallai diffibrilwyr a ddarperir gan ddrôn gael eu defnyddio gan y GIG."

Dywedodd y Prif Ymchwilydd Dr Christopher Smith, o Brifysgol Warwick: "Mae gwasanaethau ambiwlans yn gweithio mor gyflym â phosibl i gyrraedd cleifion sydd wedi dioddef ataliadau ar y galon. Weithiau, fodd bynnag, gall fod yn anodd cyrraedd yno yn gyflym. Gall aelodau o'r cyhoedd ddefnyddio AED cyn i'r ambiwlans gyrraedd yno, ond anaml y mae hyn yn digwydd. Rydym wedi adeiladu system drôn i gludo diffibrilwyr i bobl sy'n cael ataliad ar y galon a allai helpu i achub bywydau.

“Rydym wedi dangos yn llwyddiannus y gall dronau hedfan pellteroedd hir yn ddiogel gyda diffibriliwr ynghlwm a chynnal cyfathrebu ar y pryd â'r gwasanaethau brys yn ystod yr alwad 999. Rydym mewn sefyllfa lle gallem weithredu'r system hon a'i defnyddio ar gyfer argyfyngau go iawn ledled y DU yn fuan."