
Yr Athro Monica Busse i adael Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
29 Awst
Hoffai Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru longyfarch yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wrth i ni gadarnhau ei hymadawiad i swydd newydd mewn Prifysgol uchel ei pharch yn Lloegr.
Ers lansio'r Gyfadran yn 2022, mae'r Athro Busse wedi arwain ei datblygiad gyda gweledigaeth a phwrpas, gan sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer cefnogi gyrfaoedd ymchwil ledled Cymru. Mae ei harweinyddiaeth wedi helpu i sefydlu'r Gyfadran fel rhan annatod o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gan gydlynu dyfarniadau personol (fel cymrodoriaethau a dyfarniadau amser ymchwil), creu cyfleoedd datblygu gyrfa, hyrwyddo tegwch a chynhwysiant a chreu cymuned ymarfer gweladwy a chefnogol.
Ar lefel y DU, mae Monica wedi sicrhau cyfraniad cryf o Gymru at ddatblygu strategaeth gyrfaoedd ymchwil y DU, gan weithio i feithrin gweithlu ymchwil medrus ac arloesol sy'n ymroddedig i wella canlyniadau gofal iechyd yng Nghymru.
Yn ei rôl fel Uwch Arweinydd Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Monica wedi dangos arweinyddiaeth a rhagoriaeth ym maes ymchwil ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan arbenigo mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau corfforol a seicogymdeithasol cymhleth ar gyfer cyflyrau iechyd cronig. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar hyrwyddo iechyd gydol oes yr ymennydd a gwella mynediad at wasanaethau iechyd i grwpiau a danwasanaethir.
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Monica, mae ei phrofiad, ei gwybodaeth a'i brwdfrydedd wedi bod yn allweddol wrth ysgogi datblygiad y Gyfadran ac ansawdd ac ystod y dyfarniadau personol yr ydym bellach yn eu cynnig. Bydd y Gyfadran, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac, yn bwysicaf oll, ymchwilwyr sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfaoedd yng Nghymru, yn elwa o'i chyfraniad am flynyddoedd lawer i ddod."