
Rhwydwaith newydd wedi'i sefydlu i hybu’r gwaith o gyflawni ymchwil fasnachol ledled y DU
1 Medi
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) wedi dyfarnu £6.5 miliwn, wedi'i ariannu ar y cyd trwy bartneriaeth cyhoeddus-preifat gyda'r diwydiant fferyllol, i sefydlu Rhwydwaith o Ganolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol (Canolfannau Cyflawni) ledled y DU.
Caiff y Rhwydwaith ei gynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Caerlŷr, a bydd yn dechrau gweithredu'n ffurfiol ar 1 Medi 2025.
Bydd y Rhwydwaith newydd yn cydlynu pob un o'r 21 o Ganolfannau Cyflawni yn strategol ar draws pedair gwlad y DU. Bydd yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin capasiti ymchwil, symleiddio'r rhyngwyneb rhwng diwydiant a seilwaith cyflawni treialon clinigol y DU, a gwella effeithlonrwydd i gyflawni ymchwil glinigol fasnachol trwy brosesau wedi’u cysoni, yn unol â galwad y Prif Weinidog i gynyddu effeithiolrwydd ymchwil feddygol yn gynharach eleni.
Trwy fabwysiadu dull o gyflawni treialon clinigol masnachol ledled y DU, bydd mwy o gleifion yn cael cyfle i fanteisio ar y triniaethau arloesol diweddaraf trwy ymchwil.
Cafodd y Canolfannau Cyflawni eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024, gyda chefnogaeth partneriaeth gyllido cyhoeddus-preifat rhwng y llywodraeth a'r diwydiant fferyllol. Nod y Canolfannau Cyflawni yw cyflymu a chryfhau’r ffordd y caiff ymchwil glinigol fasnachol ei chyflawni er mwyn cynyddu cystadleurwydd byd-eang y DU mewn gwyddorau bywyd. Bydd Canolfannau Cyflawni Gofal Sylfaenol yn ymuno â'r Rhwydwaith ym mis Tachwedd i gefnogi'r newid o’r ysbyty i’r gymuned yn Lloegr. Canolfannau a arweinir gan feddygon teulu â chanddynt hanes o gyflawni ymchwil fasnachol yw’r rhain, a byddant yn barod i weithredu o’r diwrnod cyntaf.
Darperir cyllid diwydiant ar gyfer y Canolfannau Cyflawni drwy Raglen Fuddsoddi'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi’u Brandio (VPAG), gan gyfrannu hyd at £300m i hybu’r gwaith o gyflawni treialon clinigol masnachol yn y DU. Caiff y rhai yn Lloegr eu hariannu ar y cyd trwy'r NIHR i gynnig seilwaith cynaliadwy ar gyfer diwydiant hyd at ddiwedd mis Mawrth 2031.
Mae'r Canolfannau Cyflawni yn gweithio gyda'r diwydiant gwyddorau bywyd a seilwaith ymchwil arall i gyflawni ymchwil a noddir yn fasnachol yn y DU.
Bydd cynhaliwr Rhwydwaith Canolfannau Cyflawni’r DU yn cydlynu gweithrediadau ar draws y Canolfannau i sicrhau bod ymchwil glinigol fasnachol yn cael ei chyflawni mewn ffordd symlach a chyson ledled y DU.
Bydd y Rhwydwaith yn:
- Darparu arweinyddiaeth strategol a chydlynu cenedlaethol ar draws yr 21 o Ganolfannau Cyflawni ledled y DU.
- Cynnig pwynt cyswllt canolog i noddwyr diwydiant.
- Hwyluso dichonoldeb a lleoliad astudiaethau a’r broses o’u sefydlu ledled y DU.
- Meithrin cydweithrediad â rheoleiddwyr, seilwaith cyflawni ehangach NIHR a ledled y DU, a rhanddeiliaid allweddol eraill i hyrwyddo Cyflawni Ymchwil Glinigol yn y DU.
- Cefnogi datblygu'r gweithlu, cynhwysiant a chynnwys y cyhoedd.
- Hwyluso integreiddio'r Canolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol Gofal Sylfaenol yn Lloegr yn hydref 2025, gan eu mabwysiadu i'r Rhwydwaith.
Trwy alinio ymdrechion y Canolfannau Cyflawni a chynnig cynnig cydlynol i'r diwydiant, bydd y Rhwydwaith yn sicrhau bod y Canolfannau yn cyflawni yn erbyn disgwyliadau'r diwydiant ar gyfer sefydlu a chyflawni ymchwil fasnachol yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn y DU.
Dywedodd Dr Maria Koufali, Cyfarwyddwr Diwydiant Gwyddorau Bywyd NIHR:
“Mae Rhwydwaith Canolfannau Cyflawni Ymchwil Fasnachol y DU yn rhan hanfodol o'n hymdrech genedlaethol i drawsnewid y gwaith o gyflawni ymchwil glinigol yn y DU. Trwy symleiddio’r broses o sefydlu treialon ac ehangu mynediad i leoliadau cymunedol a lleoliadau a danwasanaethir, bydd yn helpu i sicrhau bod y DU yn un o'r cyrchfannau mwyaf deniadol yn y byd ar gyfer ymchwil fasnachol. Mae hyn yn golygu mynediad cyflymach i driniaethau arloesol i gleifion, mwy o fuddsoddiad yn y GIG a sector gwyddorau bywyd cryfach sy'n rhoi hwb i iechyd a chyfoeth y genedl.”
Dywedodd Dr Janet Valentine, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi a Pholisi Ymchwil Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI):
“Yn 2022, cyfrannodd treialon clinigol y diwydiant £7.4 biliwn i economi ehangach y DU, gan gynhyrchu £1.2 biliwn o refeniw i'r GIG a chefnogi cyfanswm o 65,000 o swyddi. Mae o fudd i bawb ein bod ni’n denu mwy o dreialon diwydiant i'r DU, gan alluogi cleifion i elwa o gymryd rhan mewn treialon o'r triniaethau arloesol diweddaraf.
“Mae'r bartneriaeth gyllido rhwng diwydiant a'r llywodraeth sy'n cefnogi Canolfannau Cyflawni a'r Rhwydwaith newydd o Ganolfannau Cyflawni ledled y DU sy’n ymroddedig i gyflawni treialon clinigol, yn arwyddion clir bod y DU o ddifrif ynglŷn ag ymchwil glinigol fasnachol.
“Ein gobaith yw y bydd y Canolfannau a'u Rhwydwaith ledled y DU yn dod yn sefydliadau o ragoriaeth yn fyd-eang yn gyflym, gan gynnig treialon clinigol diwydiant i nifer cynyddol o gleifion ledled y DU.”
Dywedodd yr Athro Melanie Davies, Athro Meddygaeth Diabetes ym Mhrifysgol Caerlŷr a Diabetolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Caerlŷr, a Chyfarwyddwr y Rhwydwaith Canolfannau Cyflawni:
“Rydym yn falch iawn bod Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Athrofaol Caerlŷr wedi derbyn y cyllid hwn i gynnal y Rhwydwaith wedi’i ffedereiddio o Ganolfannau Cyflawni ar draws pedair gwlad y DU. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i weithio gyda'n partneriaid ledled y DU i sicrhau bod ymchwil fasnachol yn cael ei sefydlu a’i chyflawni’n gyflymach ac yn fwy effeithlon. Rydym am ysgogi mwy o fuddsoddiad gan ddiwydiant a galluogi hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan mewn astudiaethau a all arwain at gymeradwyo meddyginiaethau a dyfeisiau newydd yn y dyfodol er budd cleifion yn y DU.”
Dywedodd Carys Thomas, Pennaeth Polisi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Yng Nghymru rydym wedi ymrwymo i weithio ar y cyd i wella'r ddarpariaeth gofal iechyd ac i roi hwb i'n heconomi. Bydd y Rhwydwaith hwn yn ffordd hanfodol i ni ddod at ein gilydd i gyflymu amseroedd sefydlu treialon, ysgogi arloesedd, a sicrhau canlyniadau go iawn i gleifion.”
Dywedodd yr Athro Fonesig Anna Dominiczak, Prif Wyddonydd (Iechyd) ar gyfer Llywodraeth yr Alban:
“Bydd y Rhwydwaith hwn yn uno'r Canolfannau Cyflawni nid yn unig ledled yr Alban, ond ar draws y DU gyfan, gan ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff treialon masnachol eu cyflawni. Rydym yn gobeithio y bydd sefydlu’r Rhwydwaith hwn - a'r cynllun Canolfannau Cyflawni yn gyffredinol - yn anfon neges bod yr Alban yn awyddus i ffurfio partneriaethau allweddol sy'n denu buddsoddiad ac yn gwella gofal a chanlyniadau i gleifion.”
Dywedodd yr Athro Ian Young, Prif Gynghorydd Gwyddonol a Chyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ymchwil a Datblygu ar gyfer Gogledd Iwerddon:
“Rydym yn falch o fod yn rhan o'r Rhwydwaith newydd o Ganolfannau Cyflawni ac o weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i hybu ymchwil fasnachol ledled y DU - yn ogystal ag yng Ngogledd Iwerddon yn benodol.
"Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau’r budd mwyaf i gleifion a buddsoddiad mwyaf yn ein system gofal iechyd, gan sicrhau bod cyfranogiad mewn treialon clinigol ar gael mor eang â phosibl, a gwella cyfleoedd ar gyfer dyfodol iachach i Ogledd Iwerddon.”
Cadwch i fyny'n gyfredol â gwybodaeth ynghylch y CRDCau a'r VPAG trwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.