a patient being vaccinated

Gallai astudiaeth imiwnotherapi arwain at frechlyn canser "oddi ar y silff"

2 Hydref

Nod astudiaeth a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yw darganfod ffyrdd o hyfforddi system imiwnedd y corff i adnabod ac ymdrin â chelloedd canser yn well.

Mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar gelloedd T "cynorthwyol" fel y'u gelwir, math allweddol o gelloedd gwaed gwyn. Nid yw celloedd T yn ymateb i'n cyrff ni ein hunain, gan y gall gwneud hynny achosi afiechydon (a elwir yn awtoimiwnedd). Fodd bynnag, gall hyn eu hatal rhag adnabod canser. 

Mae'r astudiaeth hon yn archwilio ffyrdd o hyfforddi celloedd T cynorthwyol i adnabod canser yn well ac yna ei dargedu, fel rhan o don newydd o therapïau canser, a elwir yn imiwnotherapïau.

Yn y pen draw, byddai’n bosibl defnyddio'r canfyddiadau i greu brechlynnau canser sy'n effeithiol i fwy o bobl ac sy'n fwy fforddiadwy.

Mae Dr Bruce MacLachlan, Cydymaith Ymchwil yn Is-adran Heintiau ac Imiwnedd Prifysgol Caerdydd yn arwain yr astudiaeth. Dywedodd Dr MacLachlan, "Yn union fel mae brechlynnau yn amddiffyn pobl rhag firysau, efallai y byddwn yn gallu datblygu ffordd o ddylunio brechlynnau canser i ysgogi gwell ymateb yn erbyn canser. Ar ôl llawdriniaeth i ddileu’r tiwmor, byddai'r claf yn cael brechiad a fyddai'n helpu i ymestyn ei ymateb imiwnedd i unrhyw gelloedd canser sydd ar ôl neu unrhyw rai a allai fod wedi lledaenu.

Nid yw celloedd T yn gweld celloedd tiwmor yn uniongyrchol, ond yn hytrach yn adnabod darnau o diwmorau o'r enw peptidau. Mae'r peptidau hyn yn cyfeirio’r celloedd T i gychwyn ymateb imiwnedd. Ein nod yw ehangu nifer y peptidau cyfeirio canser y gall y system imiwnedd eu gweld, gan gynyddu'r ymateb imiwnedd i'r peptidau hynny."

Mae'r canlyniadau hyd yn hyn wedi bod yn addawol. Parhaodd Dr MacLachlan, "Rydym wedi gallu dangos yn y labordy y gallwn wneud newidiadau y mae celloedd T cynorthwyol yn eu hadnabod yn well. Yr her nawr yw profi a yw hyn yn cael ei ailadrodd mewn celloedd T cynorthwyol wedi’u rhoi gan gleifion â chanser. Gallwn wedyn geisio defnyddio'r un egwyddor ar gyfer mwy o rannau o'r tiwmor, i weld a allwn wneud yr ymateb yn well byth."

Mae rhai heriau o ran rhoi’r math hwn o therapi ar waith. Ymddengys bod imiwnotherapïau yn fwy effeithiol mewn rhai pobl nag eraill, ac mewn rhai canserau yn fwy nag eraill. Mae'r imiwnotherapïau mwyaf pwerus hefyd yn anhygoel o ddrud.

Parhaodd Dr MacLachlan, "Mae cymryd tiwmor person, ei ddadansoddi am fwtaniadau a chreu brechlyn wedi'i bersonoli, i’w weld yn bwerus iawn, ond mae'n anhygoel o ddrud. Mae hefyd yn bwysig ystyried yr amserlenni sy'n gysylltiedig â datblygiad rhai canserau. Er enghraifft, mae'r rhan fwyaf o achosion o ganser y pancreas yn cael diagnosis yng nghamau tri a phedwar, sy'n golygu mai cyfle byr iawn sydd yna ar gyfer triniaeth.

"Rydyn ni'n gweithio tuag at ddatblygu brechlyn sy'n fwy "oddi ar y silff", ac felly yn fwy perthnasol, teg a hyfyw i'w gyflenwi."