
Ymgeisiwch nawr am Wobrau Arloesi MediWales 2025
8 Medi
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 20fed Gwobrau Arloesi MediWales blynyddol.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gefnogi Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant unwaith eto, i arddangos y gorau o arloesedd ymchwil Cymru,
Mae'r wobr hon yn cydnabod gweithwyr iechyd proffesiynol, clinigwyr neu fyrddau iechyd Cymru sydd wedi partneru â diwydiant i gyflawni prosiect neu ddatblygu cydweithrediad sy'n canolbwyntio'n benodol ar ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol. Dylai prosiectau gael effaith gadarnhaol ar iechyd, lles a ffyniant pobl Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o wobrau ledled sectorau diwydiant ac iechyd:
Gwobrau Diwydiant 2025
- Arloesi
- Cychwyn arni
- Partneriaeth â'r GIG
- Allforio
- Cyflawniad eithriadol
Gwobrau Iechyd 2025
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Cydweithredu â Diwydiant
- Technoleg ac Effaith Ddigidol
- Uwchraddio Arloesi a Thrawsnewid
- Arloesi Gofal Cymdeithasol
- Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant
Dim ond cwmnïau Cymreig, neu gwmnïau sydd ag ôl troed yng Nghymru sy'n gymwys i wneud cais am wobrau’r diwydiant, a dim ond byrddau iechyd Cymru neu gwmnïau sy'n gweithio ar y cyd â bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n gymwys i wneud cais am y gwobrau iechyd. Rhaid i bob cais am y gwobrau iechyd ddod gan y gweithwyr iechyd proffesiynol, clinigwyr, y bwrdd iechyd y mae'r cwmni wedi gweithio ar y cyd â nhw.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ar 4 Rhagfyr 2025 yng Ngwesty'r Mercure Holland House yng Nghaerdydd.
I gystadlu, anfonwch e-bost at Bethan Davies yn MediWales yn gofyn am ffurflen gais Gwobrau Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant erbyn 10 Hydref 2025. Pob lwc!