helen phillips

Treial yn canfod bod dos dyddiol o aspirin yn lleihau'r risg o ganser y coluddyn i bobl â syndrom Lynch

4 Medi

Mae treial clinigol mawr wedi’i gefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi canfod y gall cymryd dos bach dyddiol o aspirin helpu pobl sydd â risg uchel o ganser y coluddyn rhag datblygu'r clefyd.

Recriwtiodd Ysbyty Singleton yn Abertawe gyfanswm o 30 o gyfranogwyr yn y treial CaPP3 ledled y DU (Rhaglen 3 Atal Adenoma / Carsinoma'r Colon a'r Rhefr), wedi’i arwain gan yr Athro Syr John Burn ym Mhrifysgol Newcastle ac wedi’i ariannu gan Cancer Research UK. Cymerodd Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych ran yn y treial hefyd, gan recriwtio 15 o gyfranogwyr. Gwnaeth Bayer Pharma AG ddarparu’r aspirin cam cudd a chostau rhannol y pecyn ymchwil.

Recriwtiodd y treial bobl â syndrom Lynch, cyflwr prin sy'n cynyddu'n sylweddol y risg o sawl math o ganser, gan gynnwys canser y colon a’r rhefr a chanser y groth a'r ofarïau. Mae Bowel Cancer UK yn amcangyfrif bod gan tua 175,000 o bobl yn y DU syndrom Lynch.

Dangosodd treial CaPP2 yn flaenorol fod dos dyddiol uchel, 600mg, o aspirin yn haneru’r risg o ganser y coluddyn i bobl â syndrom Lynch. Erbyn hyn, mae CaPP3 wedi dangos bod dos llawer is o ddim ond 75 i 100mg hefyd yn lleihau eu risg o ganser y coluddyn yn sylweddol.

Mae syndrom Lynch yn rhedeg mewn teuluoedd, ond nid yw llawer o bobl yn ymwybodol ei fod ganddyn nhw nes bod aelod o'r teulu yn cael diagnosis canser y coluddyn. Ar yr adeg hon, efallai y bydd profion genetig yn cael eu cynnig i’r person hwnnw ac aelodau eraill y teulu i gadarnhau a oes ganddynt syndrom Lynch ai peidio.

Roedd Helen Phillips, 66 oed, cyfreithiwr o Abertawe yn cymryd rhan yn y treial CaPP3. Cafodd hi a sawl aelod arall o'i theulu ddiagnosis o syndrom Lynch ar ôl i'w nith farw o ganser y coluddyn yn 2014, a hithau ond yn 26 oed. Dywedodd Helen, 

Mae nifer o aelodau fy nheulu agos wedi cael canser, gan gynnwys fy modryb a oedd wedi cael canser y bledren a fy mam a oedd â chanser y groth. Pan fu farw fy nith penderfynodd ein teulu cyfan gael prawf am syndrom Lynch ac fe wnaethon ni ddarganfod ei fod gennyf i, fy nghefnder, fy mrawd a fy nau blentyn, bob un ohonom. 

"Pan gefais fy nghanlyniadau, gofynnodd y meddyg a fyddai gennyf i ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y treial. Roedd yn swnio’n beth syml iawn i'w wneud, dim ond cymryd cwpl o dabledi. Nawr gan wybod y canlyniadau, mae'n eithaf trawiadol bod peth mor syml yn gallu gwneud gwahaniaeth mor fawr, ac fe wnes i barhau i gymryd aspirin ar ôl i'r treial orffen."

Parhaodd Helen i gymryd aspirin ar ôl i'r treial ddod i ben, yn ogystal â chymryd camau eraill, i geisio lleihau ei risg o ganser. Aeth ymlaen, "Cefais hysterectomi yn 2023 i helpu i leihau fy risg o ganser, ac rwy’n cael colonosgopi bob dwy flynedd i helpu i fonitro am unrhyw arwyddion cynnar o ganser y coluddyn, gan fod diagnosis cynnar mor bwysig. 

"Pan gefais ddiagnosis i ddechrau, roeddwn i'n poeni mwy am fy mhlant na fy hun. Ar ôl y treial rydw i wedi’u hannog i ddechrau cymryd aspirin hefyd gan ei fod mor hawdd i'w wneud a gallai leihau eu risg yn y dyfodol."

Byddai Helen yn annog eraill i ystyried bod yn rhan o dreialon clinigol yn y dyfodol, gan ychwanegu, "Roedd yn benderfyniad hawdd i gymryd rhan. Yn aml pan fyddwch chi'n meddwl am dreial clinigol rydych chi'n meddwl am rywbeth sy’n cymryd llawer o amser ac sy’n gymhleth, ond roedd hyn mor syml. Nid oedd yn ymrwymiad enfawr, ond mae wedi nodi rhywbeth a allai atal pobl a theuluoedd eraill rhag gorfod mynd trwy ganser yn y dyfodol."

Dywedodd Dr Alex Murray, Genetegydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, "Mae wedi bod yn werthfawr iawn gallu cofrestru ein cleifion yn yr astudiaeth hon. Gall fod yn bryderus iawn i gleifion sy'n cael diagnosis o syndrom rhagdueddiad i gael canser fel syndrom Lynch ac mae clywed y gallant gymryd meddyginiaeth syml fel aspirin i leihau eu risg yn rhoi sicrwydd mawr. Nawr rydyn ni'n gwybod y gallwn ni barhau i gyflawni gostyngiad sylweddol mewn risg gyda dos is, sy'n ardderchog."

Dywedodd Dr David Crosby, Pennaeth Ymchwil Atal a Chanfod yn Gynnar yn Cancer Research UK, “Mae’n gyffrous bod aspirin yn gallu cynnig diogelwch rhag canser y coluddyn wrth gymryd dos bach ohono. Mae pobl â syndrom Lynch yn cael colonosgopi yn rheolaidd ac yn byw gyda’r bryder eu bod yn debygol iawn o ddatblygu canser y coluddyn yn ystod eu bywyd. Gallai cymryd aspirin yn ddyddiol leihau’r risg o leiaf hanner a lleddfu eu hofnau. 

“Rydym yn ddiolchgar i bawb yng Nghymru wnaeth wirfoddoli i gymryd rhan yn nhreial CaPP3. Wrth i wirfoddolwyr gymryd rhan mewn treialon fel hyn rydym yn dod yn agosach at ddydd pan all pobl fyw bywydau hirach, gwell, heb ofni canser.”