
"Mae ymchwil gynhwysol yn golygu gwell ymchwil a systemau tecach" - Cynllun gweithredu newydd i gynyddu cynhwysiant mewn ymchwil
17 Medi
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn lansio cynllun gweithredu tair blynedd newydd i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd y cynllun yn cael ei lansio yr wythnos hon gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver, mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd, lle bydd partneriaeth newydd rhwng Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chanolfan Cydraddoldeb Ymchwil Prifysgol Rhydychen hefyd yn cael ei chyhoeddi.
Mae anghydraddoldebau gofal iechyd yn her barhaus yng Nghymru. Gall ffactorau fel ethnigrwydd, anabledd, oedran ac amddifadedd i gyd ddylanwadu ar iechyd, hyd yn oed cyn i bobl fynd yn sâl. Er enghraifft, mae menywod a anwyd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn byw 17 mlynedd yn llai mewn iechyd da ar gyfartaledd na'r rhai a anwyd yn yr ardaloedd mwyaf cyfoethog.
Pan fydd rhannau o gymdeithas yn cael eu hanwybyddu, mae anghydraddoldebau gofal iechyd yn gwaethygu. Gall diffyg cynhwysiant hefyd leihau ymddiriedaeth mewn systemau iechyd a gofal yn ddifrifol, gan wneud recriwtio ac ymgysylltu mewn ymchwil yn y dyfodol hyd yn oed yn fwy heriol.
Mae pwysigrwydd ymddiriedaeth yn rhywbeth y mae Praveena Pemmasani, 23 oed, o Gaerdydd, hefyd yn ei bwysleisio. Mae Praveena yn ei blwyddyn olaf yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac am y chwe blynedd diwethaf mae wedi helpu i gynghori ymchwilwyr ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gynllunio, cyflwyno a dehongli eu hastudiaethau fel rhan o grŵp cynnwys y cyhoedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed.
Dywedodd Praveena, "Mae bod yn fwy cynhwysol yn eich ymchwil yn golygu eich bod chi'n tynnu o boblogaeth fwy cynrychioladol, gan wneud eich canfyddiadau yn berthnasol i fwy o bobl. Mae hefyd yn helpu i feithrin ymddiriedaeth o fewn y cymunedau yr effeithir arnynt gan yr ymchwil. Yn y pen draw, gall ymchwilwyr gasglu'r holl ddata maen nhw ei eisiau, ond os nad yw cymunedau yn ffyddiog bod yr ymchwil yn berthnasol iddyn nhw, mae'n ofer."
"Gall fod llawer o ragdybiaethau ynghylch grwpiau oedran iau, ond y bobl orau i'w gofyn yw'r unigolion eu hunain. Rydym yn ychwanegu safbwynt nad oedd yr ymchwilwyr wedi'i ystyried ac yn helpu i deilwra ymchwil i'r gynulleidfa honno. Fy hoff ran i, ar ôl gweithio gyda rhywun ar y fethodoleg, yw pan maen nhw'n dod yn ôl atom am help i ddehongli'r canlyniadau a'i droi'n allbynnau defnyddiol."
Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru,
Mae ymchwil yn hanfodol i helpu i lywio ein hymdrechion i wella a diogelu iechyd pobl Cymru. Mae angen i'r ymchwil honno adlewyrchu'r poblogaethau yr effeithir arnynt fwyaf gan y materion sy'n cael eu hymchwilio i'n helpu i fynd i'r afael â'r bylchau mawr rhwng y rhai sydd â'r iechyd a'r lles gorau a gwaethaf sy'n dal i barhau ac sydd mewn rhai achosion yn ehangu.
"Yn gynharach eleni cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fwriad i Gymru ddod yn Genedl Marmot: un sy'n cydnabod bod anghydraddoldebau iechyd yn cael eu llywio yn bennaf gan yr amodau y mae pobl yn cael eu geni, byw, gweithio a heneiddio ynddynt, ac yn cymryd camau i'w lleihau. Mae cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymchwil yn rhan bwysig o gyflawni hyn, a bydd yn arwain at Gymru iachach a thecach.
"Edrychwn ymlaen at weld effaith y cynllun gweithredu a'r bartneriaeth hon ar y bwriad hwnnw, er mwyn sicrhau bod ymchwil yng Nghymru yn gynhwysol, yn ystyrlon ac yn fuddiol i bawb."
Dywedodd yr Athro Mahendra Patel, cyfarwyddwr sefydlu ac arweinydd Cynhwysiant ac Amrywiaeth y Ganolfan Cydraddoldeb Ymchwil, "Mae anwybyddu grwpiau penodol — boed hynny oherwydd ethnigrwydd, anabledd, oedran, gwledigrwydd, neu unrhyw ffactor arall — yn peryglu dyfnhau anghydraddoldebau a chynhyrchu canllawiau rhagfarnllyd. Gall triniaethau fod yn llai effeithiol, neu fod â sgîl-effeithiau annisgwyl, ar gyfer poblogaethau sydd wedi'u tangynrychioli.
"Mae ymchwil gynhwysol yn well ymchwil — mae'n arwain at dystiolaeth sy'n berthnasol i bawb. Mae'n creu systemau tecach ac yn rhoi'r wybodaeth i ni ddeall a diwallu anghenion iechyd a gofal y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae'r cynllun a'r bartneriaeth newydd hon yn adlewyrchu'r awydd cryf yng Nghymru i weithio ar y cyd ac arwain y ffordd wrth ymgorffori arferion ymchwil cynhwysol sydd o fudd i bawb."
Dywedodd yr Athro Aziz Sheikh, Pennaeth Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield, Prifysgol Rhydychen, "Rydym wrth ein bodd bod ein Canolfan Cydraddoldeb Ymchwil yn partneru ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar y fenter hanfodol hon. Fel adran sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo gofal sylfaenol i bob cymuned, gwyddom nad yw ymchwil nad yw'n adlewyrchu amrywiaeth lawn y poblogaethau y mae'n ceisio eu gwasanaethu yn ddigon da. Mae'r bartneriaeth hon yn enghraifft o'r dull cydweithredol sydd ei angen i sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal o fudd i bawb, ac rydym yn falch o gefnogi Cymru i arwain y ffordd ar arferion ymchwil cynhwysol."
Dywedodd Carys Thomas, Pennaeth Polisi yr Is-adran Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth, Llywodraeth Cymru, "Mae'n hanfodol bod gan bawb yng Nghymru lais a chyfle i gyfrannu at ymchwil. Rydym yn ddiolchgar i'n cydweithwyr yn y Ganolfan Cydraddoldeb Iechyd, a hefyd i'n seilwaith ymchwil bywiog ledled Cymru am eu hymrwymiad i helpu i wneud Cymru'n arweinydd o ran cynhwysiant ymchwil, ac yn genedl iachach yn gyffredinol."
Cefnogir Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gan Lywodraeth Cymru ac mae'n gweithio gyda'r GIG, prifysgolion, cyllidwyr ymchwil eraill, cleifion a'r cyhoedd i ariannu, hyrwyddo a chefnogi ymchwil o ansawdd uchel sy'n berthnasol i anghenion a heriau pawb yng Nghymru.