Dadansoddwr Perfformiad Ymchwil - Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn/unigolion brwdfrydig i ymuno â’n tîm i weithredu fel Dadansoddwr Perfformiad Ymchwil. 

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel ledled Cymru.  Mae'r rôl hon yn ganolog i wella perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol a sicrhau bod astudiaethau ymchwil yn cyrraedd eu targedau, gan gyfrannu at enw da Cymru fel lleoliad blaenllaw ar gyfer ymchwil effeithiol. Gan weithio'n agos gyda'r Rheolwr Perfformiad Ymchwil, bydd deiliad y swydd yn helpu i ysgogi gwelliant parhaus trwy ddadansoddi a dehongli data ymchwil yn arbenigol, gan gefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau strategol ar draws gwasanaeth Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus: 

  • yn arwain datblygu a chynnal a chadw systemau deallusrwydd busnes, gan gynnwys y warws data canolog a dangosfyrddau byw. 
  • yn cynhyrchu adroddiadau perfformiad a delweddau cywir o ansawdd uchel, ymateb i ymholiadau cymhleth gan randdeiliaid, a hyrwyddo arloesedd mewn cynrychiolaeth data. 
  • yn meddu ar ddealltwriaeth gref o weithrediadau ymchwil y GIG ac mae  ymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i gyfathrebu mewnwelediadau technegol yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol.
  • yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan randdeiliaid sy'n ymwneud ag adrodd a deallusrwydd busnes. 
  • yn gyfrifol am ateb ymholiadau sy'n ymwneud â'r systemau deallusrwydd busnes, datrys problemau a chyfathrebu pan fo materion yn codi ac ateb cwestiynau cymhleth neu dechnegol iawn ar adroddiadau. 

Gall hysbyseb y swydd gau'n gynnar os derbynnir digon o geisiadau. 

Contract type: Cyfnod Penodol: 2 flynedd
Hours: Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Salary: £39,263 - £47,280 per annum
Lleoliad: Cardiff
Job reference:
070-AC137-1025
Closing date: