joint medical research symposium

Cydweithio i'r amlwg yn y cyd-symposiwm ymchwil feddygol cyntaf yng ngorllewin Cymru

7 Tachwedd

Daeth ymchwilwyr o bob rhan o dde, canolbarth a gorllewin Cymru at ei gilydd yn y cyd-symposiwm cyntaf ar ymchwil feddygol rhwng Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda i rannu dysgu, arfer gorau a chyfleoedd rhwydweithio.

Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhentre Awel yn Llanelli, yn cynnwys trosolwg o bortffolios Ymchwil a Datblygu'r ddau fwrdd iechyd gyda phedwar siaradwr o bob sefydliad hefyd yn arddangos eu cyfranogiad mewn astudiaethau ymchwil a threialon.

Ymhlith y rhain roedd Arweinwyr Arbenigeddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Dr Suresh Kumar Gopala PillaiTrudy Smith, a roddodd gyflwyniadau ar ymchwil i feddygaeth brys a gofal dwys, ac iechyd atgenhedlu a genedigaeth yn y drefn honno.

Rhoddodd Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Gwerth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drosolwg o gynllun ymchwil strategol newydd y bwrdd iechyd ar gyfer 2025-30, ac roedd hefyd yn cynnwys sesiynau trafod ar flaenoriaethau ymchwil rhanbarthol, rhwystrau i fabwysiadu arloesedd ac adeiladu partneriaethau cynaliadwy.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Mr Mark Henwood, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae wedi bod yn ysbrydoledig iawn bod yma heddiw a chlywed cymaint am yr hyn rydyn ni'n ei wneud am gydweithio a gweld beth all y ddau fwrdd iechyd ei wneud."

Ychwanegodd yr Athro Steve Bain, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Roeddem yn falch o ddod at ein gilydd yn y digwyddiad ar y cyd hwn i ddathlu'r gorau o ymchwil rhwng y ddau fwrdd iechyd, ac edrychwn ymlaen at weithio ar y cyd yn y dyfodol ar draws ymchwil, datblygu ac arloesi."