Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol?

Defnyddiwch eich diddordeb a’ch arbenigedd i fod yn Bartner Ymchwil Cyd-arwain yn yr Hwb Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd.

Mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon (CTR) yn chwilio am aelod o'r cyhoedd i helpu i gyd-arwain yr Hwb Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Mae'r hwb yn dwyn ynghyd aelodau o'r cyhoedd, arweinwyr academaidd a staff ymchwil o bob rhan o'r ganolfan. Ei rôl yw cefnogi cynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd, gan sicrhau bod cynnwys pobl a rhannu gwybodaeth yn rhan allweddol o bopeth y mae'r Ganolfan Ymchwil Treialon yn ei wneud.

Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
  • Diddordeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol a chefnogi nodau'r Ganolfan
  • Profiad sylweddol o ymwneud â'r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
  • Hyder wrth gynrychioli llais y cyhoedd mewn pwyllgorau
  • Y gallu i ymuno â chyfarfodydd rhithwir a chael mynediad at ddogfennau gan ddefnyddio Teams
  • Parodrwydd i fynychu cyfarfodydd achlysurol yng Nghaerdydd
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
  • Mynychu chwe chyfarfod Hwb y flwyddyn. Mae'r rhain yn para awr a hanner ac efallai y bydd angen i chi adolygu dogfennau cyn pob cyfarfod.
  • Mynychu cyfarfodydd Grŵp Mabwysiadu Astudiaeth ar sail rota o ddau y flwyddyn.
  • Mynychu dau gyfarfod Bwrdd Strategol y flwyddyn. Bydd angen darllen ac adolygu dogfennau cyn pob cyfarfod.
  • Rhannwch eich syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau am adroddiadau a chynlluniau'r Ganolfan ar gyfer y dyfodol.
Pa mor hir fydd fy angen?

Gofynnir i chi fod yn rhan o'r Hwb am ddwy flynedd yn y lle cyntaf gyda'r bwriad o adnewyddu os cytunir ar y cyd.

Beth yw rhai o'r buddion i mi?
  • Helpu i lywio cyfeiriad, dyluniad a’r modd o gyflwyno astudiaethau ymchwil
  • Cyfrannu at wella canlyniadau iechyd a gwasanaethau sy'n bwysig i gleifion a'r cyhoedd
  • Cael mewnwelediad i'r broses ymchwil a sut mae ymchwil yn cael ei datblygu
  • Datblygu eich hyder wrth siarad â phobl a rhannu eich syniadau a'ch profiadau
  • Gweithio gyda thîm cyfeillgar a bod yn rhan o'r tîm Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd craidd.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
  • Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwyr neu ofal plant rhesymol
  • Cynnig taliad am amser o £25.00 yr awr (gall pobl ofyn am lai os ydynt yn derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth).
  • Bydd unigolion llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan Gyfarwyddwr CTR a fydd yn darparu cefnogaeth barhaus.  Bydd Arweinydd Academaidd ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd CTR a'r Partner Ymchwil Hwb presennol yn darparu cymorth cynefino i'r unigolion llwyddiannus.
  • Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth helpu ag Ymchwil.

Llenwch y ffurflen isod

Sut wnaethoch chi glywed am y cyfle hwn?
Os cyfryngau cymdeithasol, pa sianel?
Rydw i wedi darllen a chytuno i’r cytundeb cynnwys y cyhoedd
Datganiad GDPR

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n defnyddio’r wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu er mwyn i ni berfformio’r dasg rydych chi’n darparu’r wybodaeth ar ei chyfer yn unig. Dilynwch y ddolen i’n Polisi Preifatrwydd a thicio isod i ddangos eich bod yn cytuno i ni fwrw ymlaen â’r dasg:Rydw i’n cytuno

Dyddiad cau:

Lleoliad:
Ar-lein ac yn bersonol

Sefydliad Lletyol:
Canolfan Ymchwil Treialon, Prifysgol Caerdydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn

Cysylltwch â'r tîm