Egluro cymhwysedd ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
18 Tachwedd
Mae cynnwys pobl a chymunedau mewn ymchwil iechyd a gofal yn hanfodol i wneud ymchwil yn fwy perthnasol, ystyrlon ac effeithiol.
Ond weithiau, gall heriau godi pan fydd pobl yn ceisio cymryd rhan heb fodloni'r gofynion cymhwysedd arfaethedig. Gall hyn arwain at gamddealltwriaeth, lleihau effeithiolrwydd cyfranogiad ac yn bwysicach fyth, risg o danseilio'r ymddiriedaeth mewn cyfranogiad cyhoeddus i ymchwilwyr, a chyfaddawdu uniondeb ymchwil
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, y Swyddfa Prif Wyddonydd ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon, wedi creu canllawiau newydd ar gyfer cydnabod a mynd i'r afael â chyfranogiad cyhoeddus anghymwys mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Cefnogodd gweithgor o gyfranwyr cyhoeddus, staff ymchwil a chlinigol greu'r canllawiau.
Mae'r canllawiau yn darparu:
- Diffiniad clir o gyfranogiad cyhoeddus anghymwys a pham mae'n bwysig
- Cyngor ymarferol ar sut i gydnabod cyfranogiad anghymwys posibl
- Camau ar gyfer mynd i'r afael â materion yn sensitif ac yn deg, boed hynny oherwydd camddealltwriaeth neu gamliwio
- Strategaethau i ddiogelu rhag cyfranogiad anghymwys trwy well recriwtio, ymgysylltu a chyfathrebu
Nod y canllawiau yw nid eithrio pobl yn ddiangen, ond cefnogi ymchwilwyr, arweinwyr cynnwys y cyhoedd a chyfranwyr i sicrhau bod y bobl iawn yn cymryd rhan, yn y ffordd gywir, am y rhesymau cywir.
Trwy egluro beth mae cymhwysedd yn ei olygu mewn gwahanol gyd-destunau, gall y canllawiau helpu timau ymchwil i ddiogelu uniondeb eu gwaith, cryfhau perthnasoedd â chyfranwyr cyhoeddus a sicrhau bod cyfranogiad yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn effeithiol.
Gweler y canllawiau llawn.
Er mwyn cadw i fyny â'r datblygiadau ymchwil diweddaraf a'r diweddariadau ar gyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil, tanysgrifiwch i gylchlythyr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
- Cwestiynau cyffredin
Pam mae angen canllawiau ar gyfranogiad cyhoeddus "anghymwys"?
Mewn achosion prin, gall pobl gymryd rhan mewn ffordd nad yw'n cyd-fynd â gofynion rôl ymwneud benodol. Gall hyn ddigwydd trwy gamddealltwriaeth (lle nad oedd disgwyliadau'n glir) neu gamliwio (lle mae rhywun yn cam-ddatgan eu profiad yn fwriadol). Mae'r canllawiau yn helpu ymchwilwyr i ymateb i'r sefyllfaoedd hyn yn sensitif, yn barchus ac yn gyson.
A yw hyn yn golygu bod rhai pobl yn cael eu heithrio rhag cyfranogiad y cyhoedd?
Dim o gwbl. Mae cyfranogiad y cyhoedd yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn ganolog i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw'r canllawiau yn ymwneud â gosod rhwystrau, mae'n ymwneud â sicrhau bod cyfranogiad yn deg, ystyrlon ac yn briodol i bawb sydd wedi'u cynnwys.
A fydd hyn yn atal pobl sydd â phrofiadau, anghenion cyfathrebu neu lefelau hyder gwahanol rhag cymryd rhan?
Na. Mae'r canllawiau yn rhybuddio'n benodol rhag gwneud rhagdybiaethau ac yn pwysleisio pwysigrwydd deall anghenion unigol. Gallai llawer o ddangosyddion (fel peidio â siarad mewn cyfarfod) fod ag esboniadau eraill, megis rhesymau iechyd, rhwystrau iaith neu hyder. Anogir ymchwilwyr a thimau cyfranogi i archwilio'r rhain yn llawn cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Sut bydd hyn yn effeithio ar gyfranwyr cyhoeddus presennol?
Mae'r rhan fwyaf o gyfranogiad y cyhoedd yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol. Nid yw'r canllawiau hyn yn newid rolau cyfranwyr presennol. Mae ond yn cynnig fframwaith i dimau ymchwil ymdrin â sefyllfaoedd yn deg os bydd cwestiynau cymhwysedd yn codi.
Beth sy'n digwydd os canfyddir bod rhywun yn anghymwys trwy gamddealltwriaeth?
Mae'r canllawiau yn argymell datrys y mater heb fai a lle bo hynny'n bosibl cyfeirio unigolion at gyfleoedd addas eraill.
Beth sy'n digwydd mewn achosion o gamliwio?
Os yw rhywun wedi cam-gynrychioli eu hunain yn amlwg, cynghorir ymchwilwyr i roi terfyn ar y cyfranogiad yn barchus ac yn dryloyw er mwyn amddiffyn uniondeb yr ymchwil.