person sy'n gwisgo menig glas yn llenwi traphont o bibell

Ymchwil y mae Llywodraeth Cymru’n ei hariannu’n dod i’r casgliad bod arwyddion mewn carthffosiaeth yn rhybudd cynnar o frigiadau mewn achosion o coronafeirws

22 Hydref

Mae prosiect y mae Llywodraeth Cymru’n ei ariannu ac y mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio arno’n llwyddo i ganfod olion COVID-19 mewn carthffosiaeth, sy’n rhybudd cynnar o frigiadau lleol mewn achosion ledled y wlad, ac mae’n rhannu data â thîm Profi ac Olrhain y GIG.

Mae’r rhaglen, a gyhoeddwyd yn gyntaf ym mis Mehefin, bellach wedi dangos y gellir dod o hyd i ddarnau o ddeunydd genetig o’r feirws mewn dŵr gwastraff. Gall hyn wedyn ddangos lle mae yna gymuned leol neu sefydliad sy’n wynebu cynnydd sydyn mewn achosion.

Mae’r canlyniadau’n gallu rhoi darlun cliriach i weithwyr iechyd proffesiynol lleol o gyfraddau haint trwy nodi lle y mae yna niferoedd uchel, yn enwedig o ran cludwyr asymptomatig a chyn i bobl ddechrau dangos symptomau. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol gymryd camau prydlon i arafu lledaeniad y feirws.

Meddai’r Athro Davey Jones, Athro Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor a Phrif Ymchwilydd yr astudiaeth yng Nghymru:

“Rydyn ni wedi bod yn monitro feirysau fel norofeirws a hepatitis mewn baw dynol am y degawd diwethaf, fel rhan o’r rhaglen gwerthuso lefelau’r feirysau hyn yn y gymuned. Gwnaethon ni ychwanegu COVID-19 at y rhestr gwyliadwriaeth ym mis Mawrth eleni.

“Gwnaethon ni ddangos bod lefelau feirol mewn dŵr gwastraff yn mapio’n dda iawn â llwyddiant mesurau clo y don gyntaf o COVID-19 ac ag ymddangosiad yr ail don. Rydyn ni nawr yn ei ddefnyddio i olrhain ymddangosiad ac i reoli achosion COVID-19 ac yn gweithio ar gynlluniau peilot newydd i fapio’r feirws ar raddfa leol a rhanbarthol.”

Bydd y data’n cael eu rhannu â thîm Profi ac Olrhain y GIG ac yn rhoi gwybod lle y bydd brigiadau posibl mewn achosion newydd. Mae’n golygu bod gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol yn gallu siarad yn uniongyrchol â sefydliadau lle y mae’n bosibl y bydd cynnydd sydyn mewn haint. Gall y sefydliadau hyn, yn eu tro, annog pobl i gael prawf neu i fod yn fwy gofalus.

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae’r arwyddion rhybuddio cynnar hyn yn hanfodol i achub bywydau a diogelu iechyd a ffyniant yng Nghymru a’r DU. Mae’n wych gweld ymchwilwyr Cymru’n cael canlyniadau addawol o waith a fydd yn ein helpu i baratoi’r ffordd allan o’r pandemig.”