Rhwydwaith ENRICH Cymru’n ehangu i alluogi mwy o ymchwil
Mae rhwydwaith cynyddol o gartrefi gofal sy’n ‘barod am ymchwil’ ledled Cymru’n helpu ymchwilwyr i gyflawni astudiaethau gofal cymdeithasol allweddol.
Lansiwyd y rhwydwaith Galluogi Ymchwil Mewn Cartrefi Gofal (ENRICH Cymru) – a gynhelir ar y cyd gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Ganolfan Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Abertawe – yn 2018.
Nod y rhwydwaith yw annog a galluogi mwy o ymchwil i ddigwydd mewn cartrefi gofal, sef sector lle nad yw ymchwil wedi datblygu i’r un graddau â lleoliadau gofal iechyd eraill.
“Mae’r rhwydwaith yn hybu cyfnewid syniadau a gwybodaeth am ymchwil, ac yn meithrin creu ymchwil berthnasol ar y cyd i’r materion sydd ohoni yn y sector cartrefi gofal,” meddai Stephanie Watts, cydlynydd ENRICH Cymru.
“Mae ymwybyddiaeth o’r rhwydwaith a diddordeb ynddo’n tyfu’n gyflym. Mae 20 o gartrefi wedi cofrestru ar draws gogledd a de Cymru, ac mae’r diddordeb yn tyfu yng nghanolbarth Cymru.”
Mae cartrefi gofal ledled Cymru wrthi ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ymchwil, gan gynnwys gwerthusiad o effaith gweithgareddau rhwng y cenedlaethau ar y preswylwyr, y staff a’r ymwelwyr.
Yn ôl Kate Howson, sef myfyrwraig PhD sy’n arwain astudiaeth ENRICH Cymru, mae’n “ddolen hollbwysig”.
“Mae ENRICH Cymru wedi fy ngalluogi i rannu fy hysbyseb ymchwil ar lwyfannau amrywiol a chafwyd ymholiadau niferus a llawer o gartrefi gofal yn awyddus i fod yn rhan o’r ymchwil o ganlyniad,” ychwanegodd Kate.
“Mae Stephanie Watts wedi cadw mewn cysylltiad cyson, yn cysylltu â mi ac yn rhoi gwybod i mi am ddiddordebau a chyfleoedd posibl. Ar ben hyn, mae gallu mynd gydag ENRICH Cymru i gynadleddau wedi rhoi cyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy i mi. Heb help rhwydwaith ENRICH Cymru dydw i ddim yn credu y byddai fy ymchwil i lle mae hi nawr.”
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n darparu adnoddau ychwanegol dros y flwyddyn nesaf i ddatblygu rhwydwaith ENRICH Cymru ymhellach, i’w ehangu fel ei fod yn cyrraedd cartrefi gofal ledled Cymru ac i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae hyfforddiant ‘Ymwybodol o Ymchwil’ Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer cartrefi gofal, hefyd yn cael ei gyflwyno fesul cam ar draws cartrefi gofal o fewn rhwydwaith ENRICH Cymru.
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 6, Mehefin 2019