Mae’n hen bryd gwella gofal llygaid brys
Petai gennych chi broblem â’ch llygaid, i ble fyddech chi’n troi am help? Dywedodd ychydig dros hanner y bobl yng Nghymru y bydden nhw’n mynd at eu meddyg teulu, ac mae nifer y bobl sy’n mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys ar gynnydd. Mae hyn yn rhoi’r gwasanaethau hyn, sydd yn aml heb yr offer archwilio llygaid priodol, dan bwysau.
Byddai galw heibio i’ch optegydd neu’ch fferyllfa leol yn gallu datrys tua traean o’r problemau sy’n ymwneud â’r llygaid ac fe allai astudiaeth gydweithredol newydd ym maes iechyd y cyhoedd helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau hyn trwy ddisgrifio amlder a baich gofal llygaid brys anniogel, ac amcangyfrif ei gost.
Bydd yr astudiaeth, a ariennir gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac a gefnogir gan Ganolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru), yn defnyddio holiaduron a chyfweliadau, ochr yn ochr â data Cymru-eang, i ddarganfod faint o ofal llygaid brys y gallai optegwyr a fferyllfeydd ei ddarparu. Mae’r tîm yn gobeithio y bydd hyn yn tynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau’r adrannau damweiniau ac achosion brys a meddygon teulu ac yn gwella profiadau cleifion o wasanaethau gofal llygaid. Wedi’u lleoli yn ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg (OPTOM), mewn cydweithrediad ag Ysgolion Meddygaeth a Fferylliaeth, mae dyluniad yr astudiaeth wedi manteisio ar gefnogaeth Canolfan PRIME Cymru i gael gafael ar arbenigedd ymchwil gwasanaethau iechyd mewn gofal sylfaenol a brys. Mae grŵp Defnyddwyr Gwasanaeth ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Brys (SUPER) Canolfan PRIME Cymru’n darparu cymorth i gynnwys y cyhoedd trwy gydol yr astudiaeth.
Gyda’i gilydd, mae’r ganolfan a’r tîm ymchwil yn gweithio i ddiffinio diogelwch cleifion ym maes gofal llygaid trwy ymchwilio i ba gyflyrau llygaid sy’n dueddol o ddioddef camreolaeth anniogel, oedi niweidiol cyn ymyrraeth, neu gamddiagnosis.
Meddai Dr Andrew Carson-Stevens, arweinydd arbenigol gofal sylfaenol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac arweinydd ymchwil i ddiogelwch cleifion ar gyfer Canolfan PRIME Cymru: “Mae’r grŵp diogelwch cleifion (PISA) yng Nghanolfan PRIME Cymru wedi ymchwilio’n helaeth i ‘beth sy’n anniogel mewn ymarfer meddygol?’ ac maen nhw nawr yn gweithio mewn cyfnod o wneud argymhellion a chynllunio ymyriadau i wella diogelwch systemau gofal sylfaenol.
“Fe fydd ein cydweithrediad ag OPTOM yn creu cyflenwad o ben ymchwilwyr ym maes optometreg yn y gymuned sy’n arbenigo mewn ymchwilio i ofal iechyd anniogel ac mewn cynllunio atebion i wella gwasanaethau yn y dyfodol mewn byrddau iechyd ledled Cymru, yn ogystal â pheri ymchwil a datblygiadau methodolegol blaenllaw yn rhyngwladol i ymestyn yr ymchwil i ddiogelwch cleifion i ofal llygaid.”
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 6, Mehefin 2019