Ariannu ymchwil: cyfrinach llwyddiant
Mae ymgeisio am gyllid ar gyfer ymchwil yn broses gystadleuol, felly mae’n hanfodol eich bod chi’n rhoi’r siawns gorau posibl i’ch cynnig lwyddo. Ond ble ydych chi’n dechrau?
Yn 2018-19, dyfarnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 17 o grantiau, gwerth cyfanswm o fwy na £3 miliwn.
Mae Marc Boggett, Uwch Reolwr y Tîm Grantiau, yn rhannu ei gyngor ar sut i gyflwyno cais gwych, ac mae hefyd yn ein tywys y tu ôl i lenni’r broses grantiau lle mae rhai newidiadau allweddol yn digwydd.
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig
“Bob hydref, rydyn ni’n agor galwadau ariannu cystadleuol, y mae cymheiriaid yn eu hadolygu, ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau grantiau, gan gynnwys Cymrodoriaethau, Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd (RfPPB) a Grantiau Ymchwil Iechyd neu Ofal Cymdeithasol.
“Rydyn ni hefyd yn rhedeg Dyfarniadau blynyddol Amser Ymchwil y GIG (sef y Dyfarniadau Amser Ymchwil Glinigol gynt) ac Ysgoloriaethau Iechyd PhD hefyd, sef rhywbeth rydyn ni’n ei lansio bob yn ail blynedd yn ystod mis Ionawr. Rydyn ni fel rheol yn cael rhyw 40 neu 50 o geisiadau am hyn.
“Rydyn ni hefyd yn darparu cyllid i alluogi ymchwilwyr yng Nghymru i ymgeisio am amrywiaeth o gynlluniau ar lefel y DU y mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn eu rhedeg, gan gynnwys cynllun cymrodoriaeth sy’n gallu darparu cyllid sylweddol ac sy’n ddyfarniad o fri mawr.
Sicrhau bod eich cais yn taro deuddeg
“Rydyn ni bob amser yn dweud bod angen ichi ddarllen y canllawiau’n drylwyr. Mae hi bob amser yn werth chweil cael cyngor oddi wrth ymchwilwyr rydyn ni eisoes yn eu hariannu – beth oedd yn llwyddiannus yn eu cais nhw, pa adborth gawson nhw?
“Mae’n werth chweil hefyd cael mewnbwn seilwaith ehangach Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Os oes gennych chi unrhyw beth sy’n galw am dreial neu niferoedd ymchwil mawr, yna fe ddylech chi gael yr uned dreialon leol, neu agweddau eraill ar y seilwaith rydyn ni’n eu hariannu, i’ch helpu. Er enghraifft, os oes yna agwedd economeg iechyd ar eich cynigion, mae Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru’n wasanaeth amlwg i fynd ar ei ofyn.
“Nid yw ein cynlluniau presennol ar thema bellach. Yn lle hynny, rydyn ni’n annog ymgeiswyr i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, felly pan fyddwch chi’n ymgeisio, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen ‘Cymru Iachach’ o’r cychwyn cyntaf, a’ch bod chi’n cyfeirio ato’n benodol, gan egluro sut y mae’ch ymchwil chi yn berthnasol i faes polisi neu faes blaenoriaeth penodol Llywodraeth Cymru hefyd. Fe fydd hyn o gymorth i’ch cael trwy’r cyfnod blaenoriaethu cychwynnol.
“Mae cynnwys y cyhoedd a chleifion mewn ymchwil yn rhywbeth allweddol arall. Rydyn ni’n disgwyl i brosiectau fod yn cynnwys y cyhoedd o’r dechrau un, gan gynnwys datblygu’r cwestiwn ymchwil trwodd i ledaenu’r darganfyddiadau.
“Ac yn olaf, edrychwch ar adborth blaenorol rydych chi neu’ch cydweithwyr wedi’i gael ar geisiadau, a chymerwch hynny i ystyriaeth, gan ein bod ni bob amser yn ceisio rhoi adborth adeiladol.
Gwella’r broses
“Rydyn ni wedi bod yn adolygu pob un o’r cynlluniau grantiau dros yr haf gyda Sefydliad Wessex, sy’n gweinyddu’r system gais ar-lein a’r broses adolygu gan gymheiriaid, ac sy’n rheoli paneli ar ein rhan ar gyfer rhai o’n cynlluniau mwy.
“Cyn hyn, dim ond un cam oedd i broses ymgeisio am bob un o’n cynlluniau, ond erbyn hyn mae yna ddau gam ar gyfer y Cynlluniau Ariannu Ymchwil a’r RfPPB.
“Roedden ni’n teimlo y gallen ni wneud ag adnewyddu rhai o’r meini prawf cymhwysedd a’r meysydd blaenoriaeth, yn ogystal â’i gwneud hi’n haws ymgeisio yn y lle cyntaf.
“Cais cryno ydy’r cam cyntaf, lle mae’n rhaid i’r ymgeisydd bledio achos i gael blaenoriaeth. Felly’r gobaith ydy y bydd hyn yn well i ymgeiswyr sydd, cyn hyn, wedi gorfod anfon cais llawn a allai fod yn gymaint â 100 o dudalennau, ac yna’n cael ei wrthod ar y dechrau.
“Rydyn ni hefyd yn awyddus iawn i gynyddu capasiti a gallu ym maes ymchwil gofal cymdeithasol. Yn hanesyddol, mae ymchwil gofal cymdeithasol wedi datblygu’n llai o ran capasiti o’i chymharu ag ymchwil iechyd. Felly yn achos y grantiau gofal cymdeithasol, rydyn ni wedi llacio’r meini prawf cymhwysedd.
“O’r blaen, fydden ni’n dweud nad oeddech chi’n gallu ymgeisio os nad oedd gennych chi PhD ond bod gennych chi 60 mis (5 mlynedd) ar y mwyaf o brofiad ôl-ddoethurol o ymchwil, ond nawr rydyn ni wedi dileu’r cyfyngiad ‘ymchwilydd sydd megis cychwyn yn ei yrfa’ hwn. Felly fe allech chi fod yn ymgeisydd ôl-ddoethurol mwy profiadol o lawer, neu’n ymchwilydd annibynnol sydd wedi hen sefydlu, a gallwch chi nawr ymgeisio gan fod y torbwynt hwn wedi’i ddileu. Y gobaith ydy y bydd hyn yn golygu y bydd mwy o ymchwilwyr gofal cymdeithasol yn ymgeisio’r tro yma.
Y tu ôl i’r llenni
“Mae yna ambell gam i’w gymryd yn y broses ymgeisio. Rydyn ni wedi sôn am y cyfnod blaenoriaethu. Rydyn ni wedi gwneud rhyw fân newidiadau i hwn yn achos rhai o’n cynlluniau, ac fe fydd yna gronfa ehangach o lawer o swyddogion, ymarferwyr yn GIG Cymru neu awdurdodau lleol, gofal cymdeithasol, ac aelodau’r cyhoedd, sydd hefyd yn bwysig, a byddan nhw’n adolygu ceisiadau’n unigol. Byddan nhw’n rhoi sgôr i’r ceisiadau yn ôl pa mor bwysig ydy’r cwestiwn ymchwil i gleifion, y cyhoedd a’r GIG yng Nghymru, yn eu barn nhw.
“Ar ôl hynny, bydd pwyllgor goruchwylio blaenoriaethu’n gweld pob sgôr a byddan nhw’n rhoi’r ceisiadau yn nhrefn pwysigrwydd o ran polisi. Byddan nhw’n gwahodd y rheini sydd wedi llwyddo yn y cyfnod brysbennu hwnnw i gyflwyno cais cam dau llawn, sy’n cynnwys pethau fel methodoleg a chostau.
“Y wyddoniaeth sy’n cael ei hadolygu yn ystod y cam nesaf, a chaiff y ceisiadau hynny eu hanfon at gymheiriaid ledled y DU i’w hadolygu. Fel y soniais, rydyn ni’n gweithio’n agos â Sefydliad Wessex i gyflenwi rhai o’n cynlluniau grantiau. Mae ganddyn nhw gronfa ddata anferthol a phrofiad sylweddol o sicrhau adolygiadau gan gymheiriaid. Mae hynny’n rhywbeth oedd arfer bod yn anodd iawn i ni ei wneud oherwydd bod yn rhaid ichi gysylltu â llawer o academyddion ledled y DU mewn amrywiaeth o feysydd pwnc i adolygu ceisiadau a gwneud sylwadau gwyddonol i’r ymgeiswyr eu hystyried. Felly mae Sefydliad Wessex yn rheoli’r broses ac maen nhw’n anfon yr adolygiadau gan gymheiriaid atom ni ac yna rydyn ni’n rheoli’r byrddau gwyddonol. Mae’r cyfan yn cael ei roi yn ein dwylo ni bryd hynny.
“Bydd y byrddau gwyddonol yn edrych ar sgorau a sylwadau yn yr adolygiadau gan gymheiriaid. Uwch academyddion ydy aelodau’r bwrdd fel rheol, ynghyd ag aelodau’r cyhoedd, a byddan nhw yna’n gwneud asesiad terfynol. Byddan nhw’n gwneud argymhellion i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac yn dwyn sylw at adborth neu unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud i’r rhai llwyddiannus.
“Rydyn ni’n ysgrifennu at yr ymgeiswyr unwaith y mae popeth wedi’i gadarnhau, ac rydyn ni’n rhoi adborth i’r ymgeiswyr. Yna, rydyn ni’n cynhyrchu llythyrau sy’n cynnig grant i’r ymgeiswyr llwyddiannus ac rydyn ni’n rheoli’r ymchwilwyr hynny a’u prosiectau hefyd.
Efallai mai’ch tro chi fydd hi nesaf
“Ein nod ydy cefnogi adeiladu capasiti trwy ddatblygu unigolion dawnus yn ogystal â’u prosiectau a’u timau, yn hytrach na dal pobl ar eu bai mewn ceisiadau. Felly mae gennon ni gynlluniau o ansawdd uchel ac rydyn ni’n ariannu unigolion o ansawdd uchel sy’n gallu dod yn ymchwilwyr arweiniol, neu sydd eisoes yn ymchwilwyr arweiniol, ond hefyd prosiectau sydd o werth mawr i aelodau’r cyhoedd a chleifion, ac i bolisi ac arfer hefyd.
“Felly mater o geisio cydbwyso popeth – nid jyst cynyddu capasiti a gallu yng Nghymru, ond hefyd gwneud yn siŵr bod yr ymchwil sy’n cael ei chyflenwi’n wyddonol ac yn fethodolegol gadarn, a’i bod yn adlewyrchu blaenoriaethau pwysig i bobl yng Nghymru.
“Mae’r byd ariannu ymchwil yn eithaf cystadleuol. Mae yna lawer o ymchwilwyr gwych a phrosiectau ymchwil posibl ond, yn amlwg, dim ond hyn a hyn y gallwn ni ei ariannu, felly mi fuaswn i’n annog unrhyw ymchwilwyr sydd wedi methu mewn un alwad i beidio â digalonni’n ormodol ac ystyried yr adborth.”
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 7, Tachwedd 2019