Yn gwneud gwahaniaeth trwy ymchwil; dewch i gyfarfod â’n Cyfarwyddwr newydd
Roedd yr Athro Kieran Walshe dim ond wedi bod yn y swydd am ryw ychydig o ddiwrnodau pan gamodd ymlaen i’r llwyfan i westeio ein cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2019.
Dywedodd wrth gynulleidfa eiddgar o fwy na 300 o ymchwilwyr, a staff cefnogi a chyflenwi, sut roedd cydweithio’n allweddol i gyflawni pethau mawr.
Gwnaethon ni gyfarfod â’r Cyfarwyddwr newydd i ffwrdd o’r goleuadau llachar a’r meicroffon i gael gwybod mwy amdano ef, ei obeithion ar gyfer y rôl a pham ei fod yn selog dros fryniau Cymru.
@YmchwilCymru: Yn gyntaf oll – croeso i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru! Pa mor gyffrous ydy hi ichi fod yma?
Yr Athro Walshe: Mae hi’n gyffrous iawn. Mae hwn yn gyfle gwych. Dwi’n academydd sydd wedi gweithio mewn llywodraeth, a gyda llywodraeth, o’r blaen, yn ogystal â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd – ac mae hwn yn gyfle gwych i weithio ar lefel llywodraeth ond mewn system lle rydych chi’n wirioneddol gallu gweld y llinell welediad o’r llywodraeth i’r byrddau iechyd a’r gwasanaethau iechyd ar y rheng flaen.
Dwi’n meddwl mai’r hyn ’den ni i gyd sy’n gweithio ym maes ymchwil eisiau ei wneud ydy gweld ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i wasanaethau iechyd ac i bobl a phoblogaethau, ac mae hynny’n rhywbeth sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth y mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i’w wneud.
@YmchwilCymru: Dywedwch wrthon ni ryw ychydig amdanoch chi’n hun a’ch cefndir...
Yr Athro Walshe: Wel, dwi’n academydd, yn athro rheolaeth a pholisi iechyd ym Mhrifysgol Manceinion. Dwi wedi bod yno am gryn amser. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio ym Mhrifysgol Birmingham, a dwi wedi treulio amser yn yr Unol Daleithiau, ym Mhrifysgol California, Berkeley, a dwi wedi gweithio yn y King’s Fund yn Llundain. Fy nghefndir cyn hynny oedd fel rheolwr yn y GIG.
Pe bai’n rhaid i mi ddisgrifio fy hun, fuaswn i’n dweud mai gwyddonydd cymdeithasol ac ymchwilydd gwasanaethau iechyd ydw i yn y bôn. Dyna be’ dwi’n gwneud go iawn.
@YmchwilCymru: Pa brofiad ydych chi’n meddwl fydd yn eich helpu chi fwyaf yn y rôl hon?
Yr Athro Walshe: Dwi’n dod â chymysgedd da o brofiad o ymchwil a hefyd o weithio mewn llywodraeth. Dwi’n meddwl bod hon yn rôl lle y bydd gallu cyfuno’r ddau beth hynny’n golygu y bydd modd cyflawni llawer.
Dydw i heb weithio yng Nghymru o’r blaen, felly mae gen i lawer iawn i’w ddysgu am y cyd-destun Cymreig, am bolisi iechyd Cymru, am y dirwedd fel petai – hynny ydy, y dirwedd gyfundrefnol – y ddaearyddiaeth, y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu trefnu.
@YmchwilCymru: Gwnaethoch chi sôn yn yr Adroddiad Blynyddol eich bod chi eisiau cyfarfod â chynifer o bobl â phosibl ar draws y seilwaith, i gael gwybod eu barn nhw. Ydych chi’n mynd i fynd ar daith?!
Yr Athro Walshe: [yn chwerthin] mae hynna’n swnio braidd yn fawreddog! Ar hyn o bryd, dwi’n ystyried ffyrdd i gyfarfod â phobl dwi’n meddwl y byddai hyn o fudd pwysig iddyn nhw - felly pobl yn y gymuned gyhoeddus, yn y gymuned ymchwil, yn y gymuned polisi ac yn y gymuned practisau, y GIG a gofal cymdeithasol, ac mae hynna’n nifer anferthol o bobl.
Dwi eisiau gwneud hyn mewn ffordd effeithiol; ddim yn treulio f’amser i gyd yn teithio o gwmpas ar y trên, a dwi eisiau gwneud hyn yn llawn pwrpas hefyd. Felly mae’n galw am fwy na dim ond cyfarfod â phobl a dweud helô, ond ceisio defnyddio hyn fel cyfle i holi pobl ynglŷn â sut y maen nhw’n gweld Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n datblygu, beth y maen nhw’n meddwl ydy’r cryfderau, beth y maen nhw’n meddwl ydy’r cyfleoedd i wella, sut y maen nhw’n meddwl y gallai newid.
Yna’r nod ydy ceisio dod â’r syniadau hynny at ei gilydd. Dydw i ddim yn frwdfrydig dros gynlluniau a strategaethau sy’n ddogfennau hynod hir, ond dwi’n meddwl bod angen i ni fynegi cynllun ar gyfer y flwyddyn, y tair blynedd a’r pum mlynedd nesaf, yn ddigon manwl i ni allu bod yn eithaf eglur ynglŷn â be’ rydyn ni’n ceisio’i wneud, a bydd hynny’n digwydd ar ôl siarad â phobl.
@YmchwilCymru: Mae partneriaeth a chydweithrediad yn thema allweddol i ni ac fe glywson ni lawer o enghreifftiau yn ein cynhadledd. Beth ydych chi’n meddwl y gallwn ni ei gyflawni trwy gydweithio a hynny ar draws gwahanol sectorau?
Yr Athro Walshe: Mae’n ffordd o gael pethau wedi’u gwneud, yn y bôn. Un o’r heriau ydy ei gwneud hi’n haws i bobl gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ag eraill, yn lle bod hyn yn anodd i’w wneud.
Mae’r metrigau ’den ni’n eu defnyddio i fesur perfformiad yn aml yn annog pobl i weithio yn eu rhigol bach penodol eu hunain yn lle ceisio gweithio gyda phobl eraill. Felly’r nod ydy ei gwneud hi’n haws i bobl gydweithio a mynd ati i helpu pobl i weld bod cydweithio – ac nid jyst llawer o iaith gynnes a niwliog – ond cydweithredu’n ymarferol ar brosiectau a gweithgareddau’n cyflawni cymaint yn fwy.
@YmchwilCymru: Rôl ran-amser ydy hon, am bedwar diwrnod yr wythnos, sy’n golygu bod gennych chi amser i ddal ati i wneud ymchwil. Pa mor bwysig ydy hynny i chi?
Yr Athro Walshe: Dyna pwy ydw i yn fy hanfod. Dwi’n cydnabod ei bod hi’n rhywfaint o flanced gysur fel ymchwilydd i feddwl ‘wel, dwi eisiau dal ati i wneud ymchwil’, ond mae hyn hefyd, yn fy marn i, yn ddisgyblaeth ddefnyddiol. Pan ’dych chi’n ymchwilydd, ’dych chi’n gwybod pa mor anodd ydy hi i wneud ymchwil, pa mor anodd ydy hi i gael grantiau, i benodi staff ymchwil, i roi cyfle iawn iddyn nhw gael gyrfa yn hytrach na bod ar lawer o gontractau tymor penodol, i fynd trwy bob un o brosesau ymchwil a gwneud hynny mewn ffordd briodol, i ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiad a chael y papurau cyfnodolion y mae’ch prifysgolion eu heisiau, a hefyd i ymgysylltu a chael effaith.
Felly mae’n siŵr ei bod hi’n ddisgyblaeth eitha’ da i ddal ati i fod yn ymchwilydd a dwi’n tueddu i feddwl, mewn prifysgolion, mai’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus ydy’r rheini y mae’r rheswm dros ddod i mewn i brifysgol yn y lle cyntaf dal o bwys mawr iddyn nhw, boed hynny’n addysgu neu’n ymchwilio neu gyfuniad o’r ddau, a’r rheini sy’n dal i fod yn weithgar yn y maes yn hytrach na’n treulio’u bywyd cyfan mewn cyfarfodydd strategol yn swyddfa’r Is-Ganghellor.
@YmchwilCymru: Fel rydych chi’n dweud, ymchwil ydych chi yn y bôn ond pan dydych chi ddim yn ymchwilio, ble fuasen ni’n dod o hyd ichi – beth ydy’ch diddordebau?
Yr Athro Walshe: Mae’n debyg mai rhedeg ydy fy niddordeb mwyaf. Yn bennaf, dwi’n rhedeg llwybrau ac yn gwneud marathonau eithafol, felly mi fuasech chi’n dod o hyd i mi rywle yn y bryniau. Mae yna lawer o gyfleoedd i wneud hynny yng Nghymru!
Mae’n debyg mai’r ras hiraf dwi erioed wedi’i rhedeg ydy’r Spine Race, sy’n mynd ar hyd llwybr cyfan y Penwynion (Pennine Way). Felly roedd hynny’n 268 o filltiroedd, ond dwi hefyd yn gwneud rasys byrrach – dwi’n gwneud Rhedfa Parc bob dydd Sadwrn.
@YmchwilCymru: Wel, rydyn ni wedi blino jyst yn meddwl am hynna! Cyn i ni adael ichi fynd, beth arall sydd angen i ni wybod amdanoch chi?
Yr Athro Walshe: Dwi’n hawdd iawn dod ata’ i a dwi’n fodlon iawn i bobl gysylltu â mi, a phan dwi wedi codi allan mae gen i ddiddordeb go iawn mewn clywed am y pethau y mae pobl yn eu gwneud.
Yn wir, y darn cyffrous o hyn i gyd ydy’r ymchwil. Mi gefais i rai trafodaethau gwych yn y gynhadledd â phobl ynglŷn â darnau ymchwil y maen nhw’n chwarae rhan ynddyn nhw a does dim byd mwy cyffrous na darn wirioneddol dda o ymchwil – syniad gwych sydd wedi’i drosi’n brosiect ymchwil gwych, sy’n cynhyrchu rhywbeth sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.
Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 7, Tachwedd 2019