Sgan ymennydd

Triniaeth arloesol ar gyfer tiwmor ar yr ymennydd nawr ar gael yng Nghymru

Mae cleifion o Gymru ar fin bod y cleifion cyntaf yn y byd i fanteisio ar dreial sy’n cyfuno cyffuriau ac ymbelydredd, o’r enw PARADIGM 2. Mae’r Uned Cyfnod Cynnar yn Felindre’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru i fabwysiadu ei threial cyfunol cyntaf, sydd nawr ar agor i nifer fach o gleifion cymwys.

Mae’r treial yn edrych ar effeithiau cyffur o’r enw Lynparza (olaparib) wedi’i gyfuno â radiotherapi ar gyfer cleifion â thiwmorau ymosodol ar yr ymennydd, ac fe allai arwain at gael opsiwn triniaeth arall i gleifion yn y GIG.

Glioblastoma ydy un o’r mathau mwyaf cyffredin o diwmorau ar yr ymennydd mewn oedolion, a llawdriniaeth a radiotherapi ydy’r driniaeth fwyaf arferol ar ei gyfer. Mae radiotherapi’n difrodi’r DNA mewn celloedd, gan eu hatal rhag atgynhyrchu a thyfu. Mae Lynparza hefyd yn atal atgyweirio difrod i DNA ac felly mae’n ychwanegu at effaith radiotherapi. Fe fydd effeithiolrwydd y cyfuniad yn cael ei roi ar brawf mewn nifer fach o gleifion canser yn y treial cyfnod cynnar hwn.

Meddai Dr Robert Jones, sy’n arwain yr uned, “Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma’n hanfodol wrth ddatblygu triniaethau newydd a gwell ar gyfer cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt, ac mae’n bwysig ein bod ni’n gallu cynnig y treialon yma yn rhywle sy’n fwy lleol i gleifion a fyddai, fel arall, efallai’n gorfod teithio i Rydychen neu Lundain. Rydyn ni’n llawn cyffro ein bod ni’n gallu cynnig treial o fath gwahanol i gleifion, ac rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n parhau i adeiladu ar ein portffolio cynyddol o dreialon cyfnod cynnar.”

Dros y pum mlynedd nesaf, fe fydd yna gynnydd sylweddol yn nifer yr astudiaethau cyffuriau ac ymbelydredd sydd ar gael i gleifion canser. Fe fydd y cynnydd mewn therapïau’n cynnig cyfle i gleifion canser ledled Cymru fanteisio ar driniaethau newydd, ac fe fydd yn gwella canlyniadau cleifion.

Ynglŷn â’r treial

Prif Ymchwilydd

  • Yr Athro Anthony Chalmers

Wedi’i gefnogi gan

  • Ymchwil Canser y DU
  • AstraZeneca
  • NHS Greater Glasgow and Clyde
  • The Brain Tumour Charity
  • Prifysgol Glasgow

Cyhoeddwyd gyntaf: @YmchwilCymru Rhyfin 2, Mehefin 2017