Woman looking at board

Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2019: ffenestr siop i bartneriaeth a chydweithrediad

23 Tachwedd

Fe hoffem ni ddiolch o galon i bawb a fynychodd, ac a wnaeth gyflwyniad neu arddangosfa yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eleni ar 3 Hydref yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

Thema cynhadledd eleni oedd ‘partneriaeth a chydweithrediad’. Rhoddwyd lle amlwg i’r thema hon gydol y dydd trwy amrywiaeth o gyfarfodydd llawn ac anerchiadau mewnweledol gan ymchwilwyr o ledled y DU.

Cafwyd enghreifftiau gwych o gydweithredu rhwng ymchwilwyr ac aelodau’r cyhoedd yn y cyflwyniadau ar bartneriaeth gyhoeddus, lle roedd clywed yn uniongyrchol oddi wrth aelodau’r cyhoedd a oedd wedi cymryd rhan mewn prosiectau yn ein hatgoffa pam yn union rydyn ni’n gwneud ymchwil ac yn dangos pa mor bwysig ydy ymchwil i’n cleifion.

Ar ben hyn, gwnaeth casgliad o uwch ymchwilwyr o seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru roi o’u hamser i siarad am beth y mae cydweithredu mewn ymchwil yn ei olygu iddyn nhw – gan ein tywys trwy bynciau’n amrywio o fagu ieir, i David Bowie, i IVF, gan adael rhai mewn dagrau.

Ar ddiwedd y diwrnod, cyflwynwyd tair gwobr. Dr Ashra Khanom a’i thîm o ymchwilwyr o gymunedau ceiswyr lloches a ffoaduriaid oedd yn fuddugol yng Ngwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd eleni am eu gwaith arloesol ar astudiaeth HEAR.

Dr Ashra Khanom and public representatives with their award

Roedd y gystadleuaeth am y poster gorau yn arbennig o ffyrnig, gyda mwy na 70 o gynigion o ansawdd uchel. Dewiswyd 35 i’w harddangos yn y gynhadledd, ac aeth y wobr gyffredinol i Zoe Boult o adran Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am ei phoster ‘Lleoliadau Myfyrwyr mewn Ymchwil Glinigol: Allwn Ni Wneud Hyn yn Well?’

Zoe Boult with their award

Meddai Zoe: “Mae’n fraint gen i dderbyn y wobr am y Poster Gorau yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eleni. Mae’r poster yn amlinellu datblygiad lleoliad myfyriwr israddedig mewn ymchwil glinigol, a sut y gwnaeth partneriaeth a chydweithrediad hyn yn bosibl.

“Mae’n ffantastig bod y prosiect wedi’i gydnabod, ac rydw i’n hynod ddiolchgar i’r timau selog yng Nghaerdydd a’r Fro, a Phrifysgol Caerdydd sydd wedi gweithio gyda mi ar hwn i’w wneud yn llwyddiant.”

Cafodd dau boster gymeradwyaeth uchel y beirniaid:

Lisa Whittaker o Gofal Canser Tenovus â’r phoster ‘Defnyddio Rhith-wirionedd i Roi Lle Amlwg i Ymchwil Canser yng Nghymru’

Stephanie Green o ENRICH Cymru â’i phoster ‘Datblygu ENRICH Cymru yng Nghymru: Cydweithredu ar ymchwil gyda’r gymuned cartrefi gofal’

Bu 20 o sefydliadau o ledled seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n arddangos yn y gynhadledd, gyda’r wobr am y stondin ryngweithiol orau’n mynd i Barc Geneteg Cymru. Gallai’r rheini a fynychodd chwarae gêm nadroedd ac ysgolion DNA anferthol i ddysgu mwy am ymchwil meddygaeth genomig.

Wales Gene Park representatives with their award

Meddai Angela Burgess, Arweinydd Addysg ac Ymgysylltu Parc Geneteg Cymru: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi derbyn gwobr eleni am y Stondin Ryngweithiol Orau, yn enwedig gan mai’r rheini a fynychodd y gynhadledd wnaeth bleidleisio amdani.

“Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y gymuned ymchwil ynglŷn â’r datblygiadau sy’n digwydd ym maes Meddygaeth Genomig yng Nghymru.”

Roedd y gynhadledd hefyd yn gyfle gwych i’n Cyfarwyddwr newydd, yr Athro Kieran Walshe, gyflwyno’i hun a dod yn fwy cyfarwydd â’r sylfeini ymchwil gwych sydd eisoes wedi’u gosod yng Nghymru.

Meddai Kieran: “Fel Cyfarwyddwr newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, roedd y gynhadledd yn gyflwyniad gwych i’r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru, ac roedd yn dangos yn glir pa mor eang a dwfn ydy’r ymdrech ymchwil. 

“Mae angen i ni ganolbwyntio ar sicrhau bod ymchwil a gwybodaeth yn dylanwadu ar broblemau go iawn ym myd y GIG a’r system ofal, mewn ffyrdd sy’n sicrhau eu bod yn cael effaith mor fawr â phosibl ar gyfer cleifion a phoblogaethau. Mae ymchwil ragorol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, ac roedd y gynhadledd yn ffenestr siop dda iawn yn hyn o beth.

Os wnaethoch chi fethu’r gynhadledd eleni, chwiliwch Twitter â’r hashnod #YmchwilCymru19.